Ysbrydoli brwdfrydedd at ieithoedd
10 Ionawr 2019
Mae cynllun mentora llwyddiannus sydd wedi'i ddatblygu a'i arloesi yng Nghymru i'w dreialu yn Lloegr.
Mae'r Cynllun Mentora Myfyrwyr Ieithoedd Tramor Modern, a arweinir gan Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd, wedi cael cyllid gan yr Adran Addysg i gyflwyno'r prosiect i ddeg ysgol a 200 o ddisgyblion yn Ne Swydd Efrog.
Bydd y fenter yn gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Sheffield Hallam a Phrifysgol Sheffield, i gynyddu nifer y myfyrwyr sy'n dewis astudio iaith fodern ar lefel TGAU.
Mae'r rhaglen chwe wythnos yn gymysgedd o ddysgu wyneb yn wyneb a gweithgareddau ar-lein. Bydd mentor yn cael ei neilltuo i fyfyrwyr sy'n cymryd rhan. Bydd y rhain yn eu cefnogi i ystyried manteision dysgu iaith ac i wella eu hyder a’u dealltwriaeth ryngddiwylliannol.
Ers i Lywodraeth Cymru ddechrau ariannu'r prosiect yn 2015, mae'r tîm wedi cael cryn lwyddiant, gan weithio gyda bron hanner yr holl ysgolion uwchradd yng Nghymru. Mae ysgolion partner wedi cyhoeddi bod nifer y disgyblion sy'n dewis ieithoedd ar lefel TGAU wedi dyblu ar gyfartaledd, a bod gwell cymhelliant i barhau i astudio a mynd i'r brifysgol.
Meddai'r Arweinydd Academaidd, yr Athro Claire Gorrara: "Rydym yn falch iawn o fod yn gweithio gyda phartneriaid yn Lloegr i gyflwyno ein cynllun mentora llwyddiannus.
"Mae nifer presennol y myfyrwyr sy'n dewis ieithoedd yn 14 oed yn y DU yn peri gofid gan ei fod yn isel iawn. Bwriad ein prosiect yw dangos i bobl ifanc y cyfleoedd sydd ar gael drwy siarad iaith arall. Y nod fydd cynyddu nifer y disgyblion sy’n dewis astudio ieithoedd tramor modern yn yr ysgolion partner yn Lloegr gan 20% – 40%"
Dywedodd Simon Nicholls, Uwch Ddarlithydd mewn Astudiaethau Ffrangeg a Chatalaneg ym Mhrifysgol Sheffield Hallam, a Chydlynydd Rhanbarthol Mentora yn Sheffield: "Mae hwn yn gyfle gwych i'n myfyrwyr Israddedig weithio ar godi dyheadau pobl ifanc yn ardal dinas Sheffield, nid yn unig wrth sicrhau mwynhad wrth astudio iaith a dathlu eu defnydd, ond hefyd wrth oresgyn rhwystrau a dangos bod astudiaeth prifysgol yn hollol gyraeddadwy.
"Mae staff a myfyrwyr grŵp pwnc Ieithoedd a Diwylliannau Sheffield Hallam yn falch o fod yn rhan o'r prosiect mentora hwn ac i wella rôl y brifysgol fel rhanddeiliad allweddol wrth lunio'r dyfodol sydd wrth wraidd cymunedau lleol."
Dywedodd Dr Paul O'Neill, Darlithydd mewn Astudiaethau Sbaenaidd, a Chydlynydd Rhanbarthol Mentora ym Mhrifysgol Sheffield: “Mae Prifysgol Sheffield yn falch iawn o gymryd rhan yn y cynllun rhagorol hwn sy'n ategu ac yn adeiladu ar lawer o'n gweithgareddau allgymorth presennol gydag ysgolion lleol."