Traddododd yr Athro Cyfraith Tir a Datblygu, Ambreena Manji, y 6ed Darlith Goffa CB Madan yn Ysgol y Gyfraith Strathmore, Nairobi, ym mis Rhagfyr.
7 Ionawr 2019
Traddododd yr Athro Cyfraith Tir a Datblygu, Ambreena Manji, y 6ed Darlith Goffa CB Madan yn Ysgol y Gyfraith Strathmore, Nairobi, ym mis Rhagfyr.
Cafodd yr Athro Manji ei gwahodd i draddodi'r ddarlith 'Diwygio Tir yn Kenya: Hanes Syniad' fel rhan o ddigwyddiad i anrhydeddu'r Arglwyddes Ustus Mumbi Ngugi am ei chyfraniad at gyfansoddiaeth a rheol y gyfraith. Daeth aelodau'r Farnwriaeth, academyddion cyfreithiol blaenllaw Kenya, a llawer o fyfyrwyr y gyfraith ynghyd i anrhydeddu enillydd gwobr CB Madan 2018, yr Arglwyddes Ustus Mumbi Ngugi, sy'n adnabyddus yn Nwyrain Affrica ac yn fwy eang am ei chyfreitheg flaengar ar hawliau economaidd a chymdeithasol i amddiffyn y rhai sy'n wan ac yn agored i niwed, ac am ei phwyslais ar werthoedd cyfansoddiadol.
Cafodd gwobr CB Madan ei chreu yn 2013 i gydnabod cyfraniad Prif Ustus Kenya CB Madan.
Yr Athro Manji oedd Cyfarwyddwr Sefydliad Prydeinig Dwyrain Affrica yr Academi Brydeinig yn Nairobi rhwng 2010 a 2014, lle bu'n gweithio'n agos ag aelodau'r farnwriaeth ac academyddion cyfreithiol ar faterion sy'n ymwneud â'r gyfraith gyfansoddiadol a chyfraith tir.