Y Brifysgol i gydweithio ag un o ddarparwyr TGCh gorau'r byd
21 Medi 2015
Prosiectau ymchwil yn ceisio gwella band eang i biliynau o ddefnyddwyr ffonau clyfar ledled y byd
Mae Huawei, darparwr technoleg gwybodaeth a chyfathrebu gorau'r byd, wedi cyhoeddi dau brosiect ymchwil a datblygu heddiw, y mae'n eu cynnal gyda Phrifysgol Caerdydd.
Nod y prosiectau fydd lleihau'r ynni a ddefnyddir yn gyffredinol yn ogystal â chostau gweithredol rhwydweithiau cyfathrebu er mwyn ceisio gwella band eang i biliynau o ddefnyddwyr ffonau clyfar ledled y byd.
Cyhoeddwyd y bartneriaeth Ymchwil a Datblygu yn ystod anerchiad gan Gordon Luo, Prif Weithredwr Huawei yn y DU, yn Fforwm Arloesedd ac Entrepreneuriaeth DU-Tsieina, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Caerdydd ddydd Gwener. Mae'n rhan o ymrwymiad hirdymor Huawei i weithio ym maes Ymchwil a Datblygu gyda nifer o brifysgolion Prydain.
Bydd y ddau brosiect ym Mhrifysgol Caerdydd yn cael eu cynnal mewn cydweithrediad â'r Athro Johannes Benedickt a'r Athro Paul Tasker o'r Ysgol Peirianneg a byddant yn canolbwyntio ar arloeseddau technegol ar gyfer band eang cyflym.
Meddai'r Athro Johannes Benedikt: "Rydym yn falch iawn o weithio gyda Huawei ar ymchwil cyfathrebu fydd yn cael effaith wirioneddol i ddefnyddwyr technoleg bob dydd. Drwy ddefnyddio ein cryfderau cyfunol ym maes ymchwil a datblygu, rydym yn gobeithio galluogi cyfathrebu mwy effeithlon ar gyfer amrywiaeth eang o ddefnyddwyr ledled y byd."
Meddai Gordon Luo, Prif Weithredwr Huawei yn y DU: "Mae'r gwaith ymchwil yr ydym yn ei chynnal gyda Phrifysgol Caerdydd yn gyffrous iawn. Gallai'r ddau brosiect dorri tir newydd ym maes technoleg fydd yn gwella profiad biliynau o bobl wrth ddefnyddio eu ffonau clyfar i agor ap neu bori'r we. Rydym hefyd yn falch bod y bartneriaeth hon gyda Phrifysgol Caerdydd yn ymestyn ein cydweithrediad a'n buddsoddiad gyda phrifysgolion gorau Prydain sydd ag arbenigedd technegol o'r radd flaenaf."