Hwb i ddarpariaeth yr iaith Gymraeg
21 Medi 2015
Pump o swyddi darlithio newydd ym meysydd
Fferylliaeth, Meddygaeth a'r Gwyddorau Gofal Iechyd.
Bydd Prifysgol Caerdydd y cael arian gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer hyd yn oed
fwy o ddarlithwyr cyfrwng Cymraeg.
Bydd y Coleg, sy'n gweithio i sicrhau mwy o gyfleoedd astudio i fyfyrwyr
cyfrwng Cymraeg, yn buddsoddi mewn swyddi addysgu ar gyfer Fferylliaeth,
Meddygaeth a'r Gwyddorau Gofal Iechyd.
Bydd Wyn Davies o Gastell-nedd, sydd hefyd yn un o aelodau blaenllaw Only Men
Aloud, yn un o'r rheini a fydd yn addysgu Fferylliaeth drwy gyfrwng y Gymraeg
yn y Brifysgol. Mae'n edrych ymlaen at ddychwelyd i'r brifysgol lle bu'n
astudio:
''Mae darpariaeth a gwasanaeth cyfrwng Cymraeg ym maes Fferylliaeth wedi bod yn
agos at fy nghalon ers i mi raddio. Bydd dychwelyd i Brifysgol Caerdydd i
ddarlithio o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn rhoi cyfle i mi sicrhau
bod darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn rhan annatod o'r system iechyd.''
Bydd Laura Doyle ac Elen Jones hefyd yn gyfrifol am ehangu'r ddarpariaeth
newydd sbon, ac am recriwtio mwy o fyfyrwyr i astudio Fferylliaeth drwy gyfrwng
y Gymraeg yng Nghaerdydd.
Dr Awen Iorwerth fydd yn gyfrifol am ehangu ac atgyfnerthu'r ddarpariaeth sydd
eisoes ar gael ym maes Meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd, a bydd Anwen Davies
yn cynnig cefnogaeth â’u hastudiaethau i fyfyrwyr y Gwyddorau Gofal Iechyd.
Dywedodd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:
''Roeddem yn falch o allu cefnogi'r penodiadau hyn, ac rydym yn edrych ymlaen at weld mwy o fyfyrwyr yn astudio pynciau drwy gyfrwng y Gymraeg o ganlyniad i fuddsoddiad y Coleg. Hoffwn ddymuno'n dda i bob un ohonynt wrth iddynt greu adnoddau a recriwtio darpar fyfyrwyr dros y blynyddoedd sydd i ddod.''