Gwarchod mwncïod trwynog rhag effaith datgoedwigo
2 Ionawr 2019
Mae astudiaeth 10 mlynedd o fwncïod trwynog yn Borneo wedi dangos bod troi coedwigoedd yn blanhigfeydd olew palmwydd yn effeithio ar y rhywogaeth yn sylweddol.
Mae bron i hanner yr holl rywogaethau primat mewn perygl o ddiflannu ac mae hynny’n bennaf o ganlyniad i ddinistrio cynefinoedd. Astudiwyd mwncïod trwynog mewn astudiaeth newydd rhwng 2004 a 2014, a daeth i’r amlwg bod diogelu gwern-goedwigoedd yn hanfodol os ydynt am oroesi.
Yn ystod yr astudiaeth a arweiniwyd gan Brifysgol Caerdydd, Prifysgol Chubu, Prifysgol Hokaido, Prifysgol Sun Yat-AAA, Cynghrair Tirlun Byw, corff anllywodraethol HUTAN, Adran Bywyd Gwyllt Sabah a Chanolfan Maes Danau Girang, edrychwyd ar newidiadau mewn maint poblogaethau dros ddegawd, a daeth i’r amlwg bod maint y grwpiau o fwncïod trwynog wedi lleihau yn sylweddol.
Meddai Dr Benoit Goossens, Cyfarwyddwr Canolfan Maes Danau Girang a Darllenydd ym Mhrifysgol Caerdydd: "Fe wnaethom gymharu maint y boblogaeth rhwng 2004 a 2014, a daeth newidiadau cynnil i’r amlwg gan gynnwys amrywiad yn nwysedd y boblogaeth, ond heb gynyddu na gostwng. Yn bwysicach na hynny, fodd bynnag, rydym wedi gweld bod maint y grwpiau wedi lleihau yn sylweddol.
Meddai Mr Augustine Tuuga, Cyfarwyddwr Adran Bywyd Gwyllt Sabah: "Mae mwncïod trwynog yn endemig i Ynys Borneo. Maen nhw’n cael eu hystyried yn rhywogaeth o dan fygythiad ac maen nhw hefyd yn rhywogaeth sydd wedi’i gwarchod yn llwyr yn Sabah. Er gwaethaf y lefelau gwarchod hyn, mae cynefinoedd gwern-goedwigoedd sy’n bwysig i’r rhywogaeth hon yn parhau i leihau, ac mae hynny’n bennaf o ganlyniad i droi coedwigoedd yn blanhigfeydd olew palmwydd.
"Dangosodd ein dadansoddiad o’r newidiadau mewn cynefinoedd yn y gwarchodfeydd mai ychydig o goedwigoedd a gollwyd oedd o fewn cyrraedd y mwncïod trwynog, sydd 800m o lannau afonydd yn bennaf."
"Mae hyn yn awgrymu y gall gwarchod gwern-goedwigoedd wneud cyfraniad hanfodol at gynaliadwyedd mwncïod trwynog yn y cynefinoedd pwysig hyn. Fodd bynnag, mae colli mwy o goedwigoedd mewnol yn golygu bod y cynefinoedd wedi cael eu diraddio a’u rhannu’n gynyddol ac y gallai hynny fod wedi cyfrannu at grwpiau llai a thwf cyfyngedig yn y boblogaeth" ychwanegodd Dr Marc Ancrenaz, Cyfarwyddwr Gwyddonol corff anllywodraethol HUTAN.
Daeth Dr Benoit Goossens i'r casgliad: "Er bod diogelu’r coedwigoedd sydd o fewn cyrraedd y mwncïod trwynog wedi bod yn effeithiol, ni chafwyd yr un effaith mewn coedwigoedd nad ydynt yn cael eu diogelu. Collwyd 12% o’r coedwigoedd yn y mannau hyn, a gallai hynny arwain at fygwth 23% o'r boblogaeth yn y pen draw.
"Mae o leiaf traean o'r coedwigoedd hyn wedi’u neilltuo ar gyfer amaethu olew palmwydd. Rhaid gwneud rhagor er mwyn gwarchod cynefinoedd gwerthfawr yn fwy effeithiol ac adfer ardaloedd gwern-goedwigoedd. Mae hyn yn hanfodol er mwyn i’r rhywogaeth hon sydd o dan fygythiad allu goroesi."