Uno’r dreigiau
18 Medi 2015
Heddiw, bydd y gwleidydd benywaidd uchaf ei statws yn Tsieina yn bresennol mewn seremoni llofnodi cytundeb hanesyddol rhwng prifysgol flaenllaw Cymru ac un o 10 prifysgol orau Tsieina.
Bydd Liu Yandong, Dirprwy Brif Weinidog Gweriniaeth Pobl Tsieina, yn
dadorchuddio plac yng Nghaerdydd heddiw, fel symbol o lansiad coleg newydd dan
arweiniad Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Normal Beijing.
Bydd myfyrwyr Cyd-Goleg Astudiaethau Tsieinëeg Caerdydd-Beijing yn dilyn
cwricwlwm Astudiaethau Iaith a Diwylliant Tsieina a ddatblygwyd ar y cyd, gan
arwain at ddyfarniad israddedig deuol gan y ddwy brifysgol.
Bydd blynyddoedd cyntaf ac olaf y rhaglen gradd pedair blynedd yn cael eu
haddysgu yng Nghaerdydd, a'r blynyddoedd yn y canol yn cael eu haddysgu yn
Beijing. Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr y radd newydd ymgymryd â lleoliad gwaith
neu interniaeth yn Tsieina i wella eu cyflogadwyedd ar ôl graddio.
Bydd graddedigion y coleg yn datblygu sgiliau iaith Tsieinëeg yn ogystal â
dysgu codau diwylliannol y wlad arall. Y nod yw cynyddu cysylltiadau masnachol
a diwylliannol rhwng Cymru a Tsieina.
Bydd y coleg newydd yn debyg i'r cyd-golegau presennol rhwng prifysgolion y DU a Tsieina, sydd wedi'u lleoli yn Tsieina ac sy'n addysgu carfannau o fyfyrwyr Tsieineaidd. Yr hyn sy'n nodedig am y coleg newydd yw y bydd y radd yn cael ei chyflwyno yn y DU ac yn Tsieina, i gymysgedd o fyfyrwyr o'r ddwy wlad.
Cefnogir y lansiad gan Weinyddiaeth Addysg Tsieina, a chaiff ei ystyried yn sbardun allweddol wrth wraidd uchelgais y Weinyddiaeth i ryngwladoli ei system addysg uwch a datblygu gwell dealltwriaeth ddiwylliannol rhwng y DU a Tsieina.
Mae'r Weinyddiaeth yn
cefnogi'r broses o sefydlu Cyd-Sefydliad Meddygaeth a Gwyddorau Bywyd hefyd;
cytundeb rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Capital Medical a lofnodwyd
heddiw, sy'n amlinellu buddsoddiad mewn rhaglen newydd o waith ymchwil
cydweithredol gwerth £5.2M – gyda £2.6M yn cael ei fuddsoddi gan y ddwy ochr -
dros gyfnod o bum mlynedd.
Gan adeiladu ar brosiect cydweithredol parod i ymchwilio i ganser y fron, bydd
cytundeb Prifysgol Caerdydd-Capital Medical yn cefnogi datblygu ymchwil ar gyfer triniaethau newydd mewn meysydd sy'n
cynnwys canser, iechyd y cyhoedd, imiwnoleg, niwrowyddoniaeth a chlefydau
heintus.
Mae'n rhoi cyfle i ymchwilwyr o Gymru weithio gydag ymchwilwyr yn Tsieina, i
gael gafael ar setiau data enfawr a fydd yn cyflymu'r gwaith ymchwil, yn
enwedig mewn ardaloedd yng Nghymru lle nad yw clefydau'n amlwg.
Bydd cytundeb ysgoloriaeth newydd yn
cael ei lofnodi heddiw hefyd, sy'n ymdrin â datblygu Rhaglen Addysg Weithredol
gan Ysgol Busnes Prifysgol Caerdydd, i gyflwyno cyfres o raglenni tri mis mewn
gweinyddiaeth gyhoeddus i uwch-staff gweinyddol y Brifysgol.
Bydd y cytundeb yn golygu mai Prifysgol Caerdydd fydd
y prif ganolfan hyfforddiant ar gyfer Cyngor Ysgoloriaethau Tsieina yn y DU,
gan atgyfnerthu'r cysylltiadau addysg a diwylliant rhwng Cymru a Tsieina
ymhellach.
Mae ymweliad Dirprwy Brif Weinidog Tsieina, Liu Yandong, ar y cyd â dirprwyaeth
sy'n cynnwys Gweinidog Addysg Tsieina, Yuan Guiren, yn rhan o'r digwyddiadau
sy'n ymwneud â 'People to People Dialogue'
– fforwm dwyochrog y DU a Tsieina ar gyfer trafod materion sy'n ymwneud ag
addysg, diwylliant ac iechyd.
Cynhelir seremoni lofnodi a lansiad Prifysgol Normal Caerdydd-Beijing yn Siambr y Cyngor ym Mhrif Adeilad Prifysgol Caerdydd.