Mewnwelediadau iaith o daith i Namibia
18 Medi 2015
Yn yr erthygl hon, mae Dr Jonathan Morris o Ysgol y Gymraeg yn rhannu ei brofiadau o fod yn rhan o daith ddiweddar y Prosiect Phoenix i Windhoek.
Ymwelais â Phrifysgol Namibia ddechrau mis Gorffennaf er mwyn trafod prosiect posibl ar ieithoedd lleol. Rwy’n gweithio fel darlithydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn ieithyddiaeth ac yn arbenigo mewn sosioieithyddiaeth a dwyieithrwydd. Mae hynny’n golygu bod gennyf ddiddordeb mewn sut y cynhyrchir ieithoedd gan grwpiau gwahanol o siaradwyr dwyieithog a sut y defnyddir ieithoedd mewn gwahanol sefyllfaoedd.
Rwyf wedi gweithio ar ddwyieithrwydd yng ngorllewin Ewrop yn gyffredinol, ac ar ddwyieithrwydd Cymraeg-Saesneg yn benodol. Profiad hollol newydd, felly, oedd teithio 5245 milltir i Namibia lle y siaredir dros 20 o ieithoedd lleol! Yn ogystal â hyn, fe ddewiswyd y Saesneg fel yr unig iaith swyddogol ym 1990 ac, ers hynny, mae’r iaith wedi disodli’r Affricaneg mewn nifer o feysydd megis addysg.
Mae llawer o wledydd yn amlieithog yn swyddogol ond nid yw hyn yn golygu bod y boblogaeth yn amlieithog. Syndod mawr, felly, oedd gweld pa mor normal yw amlieithrwydd yn Windhoek. Mae llawer o’r trigolion, o ganlyniad i hanes y wlad a mewnfudo i’r brifddinas, yn gallu siarad iaith Affricanaidd frodorol, yr Affricaneg, y Saesneg ac efallai’r Almaeneg. Yn aml clywais bobl yn trafod eu gwaith â chydweithwyr yn y Saesneg, yn troi i’r Affricaneg yn ystod amser cinio ac wedyn yn cyfarch ffrind o’r un ardal yn Oshiwambo neu Otjiherero.
Er gwaethaf hyn, mae nifer o bobl yn pryderu am ddyfodol yr ieithoedd Affricanaidd. Treuliais yr wythnos yng nghwmni academyddion o UNAM a chynrychiolwyr o wahanol adrannau yn y llywodraeth a’r system addysg sy’n gweithio ar yr ieithoedd hyn. Maent yn pryderu bod shifft i’r Saesneg yn digwydd mewn rhai ardaloedd gan fod pobl yn gweld y Saesneg fel iaith urddasol a chan nad oes digon o adnoddau i gefnogi’r defnydd o’r ieithoedd Affricanaidd. Fe welwyd shifft ieithyddol mewn mannau o Gymru, wrth gwrs, ac roedd diddordeb mawr ganddynt glywed am hanes dwyieithrwydd Cymraeg-Saesneg a sut y cefnogir y Gymraeg ar hyn o bryd.
Yn y dyfodol, byddwn yn parhau i weithio gyda’n gilydd er mwyn rhannu profiadau o hyrwyddo ieithoedd a cheisio deall y sefyllfa ieithyddol yn Namibia’n well. Ceir nifer o ddadleuon dros hyrwyddo unrhyw iaith leiafrifol neu frodorol o safbwynt diwylliannol ond, yn bwysicach fyth, rhaid deall sut y gall ymagweddau negyddol tuag at rai ieithoedd arwain at deimladau o israddoldeb a diffyg hyder ymhlith eu siaradwyr.