Myfyrwyr yn ysbiwyr cudd mewn digwyddiad gwyddoniaeth
17 Medi 2015
Bydd dros 200 o blant ysgol uwchradd yn chwarae rôl ysbïwyr cudd yn rhan o ddigwyddiad thema Marvel yn y Brifysgol heddiw [16 Medi].
I hyrwyddo'r ystod eang o gyfleoedd gyrfaol ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (y pynciau STEM), bydd y myfyrwyr yn ymgeiswyr dan hyfforddiant ar gyfer y Weinyddiaeth Theori a Sgiliau Goleuedig (Ministry of Enlightened Theory and Skills (M.E.T.S)) ac yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau cyffrous ac ymarferol mewn meysydd fel cemeg, ffiseg a pheirianneg.
Naratif y dydd fydd cynnal ymgyrch recriwtio M.E.T.S. i weld beth yw arbenigedd yr ymgeiswyr a'u paratoi ar gyfer dyfodol yn y sefydliad dirgel dychmygol. Mae digwyddiad STEM Live! wedi'i drefnu gan y Coleg Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg ar y cyd â YellowBrick – asiantaeth marchnata sy'n arbenigo mewn profiadau sy'n ysbrydoli ac ymgysylltu – ac UCAN Productions, cwmni perfformio a chelfyddydol cydweithredol ar gyfer pobl ifanc ddall a rhannol ddall.
Drwy gydol y dydd, bydd y myfyrwyr Blwyddyn 8 a 9 yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau ymarferol fel adeiladu cychod â deunyddiau cynaliadwy, canfod côd cyfrinachol gyda chryptograffeg, ac astudio'r amgylchedd gyda golau is-goch.
Bydd y myfyrwyr hefyd yn cael gweld car rasio 'Formula Student' y Brifysgol, yn cael cyflwyniad am argraffu 3D ac yn dysgu am beth sy'n digwydd y tu mewn i losgfynyddoedd.
Mae STEM Live! wedi'i gynllunio i roi persbectif newydd i fyfyrwyr drwy fynd â nhw o'r ystafell ddosbarth a'u rhoi mewn amgylchedd lle gallant ymgolli ym myd gwyddoniaeth.
Dywedodd yr Athro Karen Holford, Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg: "Mae digwyddiadau fel hyn yn dod â gwyddoniaeth a thechnoleg yn fyw. Rydym am ysbrydoli pobl ifanc i ymgysylltu â phynciau STEM, ac mae cynnig diwrnod o weithgareddau mor gyffrous a chynhwysfawr yn ffordd wych o wneud hyn."
Meddai Wendy Sadler, Cydlynydd STEM Live!: "Rydym wedi datblygu digwyddiad sy'n galluogi myfyrwyr i weld gwaith ymchwil cyffrous mewn cyd-destun sy'n berthnasol i'w gyrfaoedd. Mae ymchwil wedi awgrymu bod myfyrwyr yn penderfynu'n gynnar pa bynciau y maent am eu hastudio (neu beidio), felly mae STEM Live! yn gyfle gwych i ni gyrraedd y gynulleidfa iau yma."
Bydd y digwyddiad hefyd yn trin a thrafod ystod ehangach o yrfaoedd sy'n ymwneud â STEM, cyn i'r myfyrwyr ddewis eu pynciau TGAU.
Mae Cynllun Partneriaeth Prifysgol-Ysgolion Prifysgol Caerdydd, a ariennir gan Gynghorau Ymchwil Prifysgol Caerdydd, wedi cefnogi datblygiad STEM Live!