Gwybodaeth newydd am fathau ymosodol o ganserau’r fron
26 Rhagfyr 2018
Mae gwyddonwyr yn Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd Prifysgol Caerdydd wedi darganfod protein sy’n ysgogi mathau ymosodol o ganser y fron, a allai gael eu targedu i ddatblygu therapïau newydd a gwell.
Dywedodd yr Athro Matt Smalley, o Brifysgol Caerdydd: “Ceir diagnosis o 150 achos newydd o ganser y fron yn y DU bob dydd. Er mwyn cynnig canlyniadau mwy cadarnhaol i bobl sy’n wynebu’r afiechyd, rhaid i ni gael gwell dealltwriaeth o sut mae’n datblygu fel bod modd i ni wella therapïau.
“Roeddem eisiau deall beth sy’n ysgogi’r math ymosodol o ganser y fron a elwir yn negyddol-driphlyg, sydd ag ymwrthedd i therapi hormonaidd ac yn ymddangos mewn tua pymtheg y cant o achosion canser y fron.
“Fe wnaethom edrych ar brotein a elwir yn LYN, sy’n ymwneud â chadw celloedd yn fyw a’u galluogi i wahanu, a daeth i’r amlwg nad yw bellach wedi’i reoli’n iawn mewn mathau ymosodol o gelloedd canser y fron ac y gall ysgogi tyfiant, lledaeniad ac ymlediad y gell canser.”
Mewn is-set o gelloedd canser y fron negyddol-driphlyg gyda’r mwtaniad genyn BRCA1, daeth hefyd i’r amlwg y gall LYN gael ei weithredu ac arwain at gynyddu goroesiad cell canser yn uniongyrchol o ganlyniad i golli BRCA1. O ganlyniad i ymyrryd â gweithrediad LYN o dan amodau arbrofol, llwyddodd hynny i ladd y celloedd BRCA1-mwtant.
Ychwanegodd yr Athro Matt Smalley: “Diolch i Breast Cancer Now, a ariannodd yr ymchwil hon, rydyn ni nawr yn deall rôl LYN gyda mathau ymosodol o ganser. Gallwn nawr adeiladu ar hyn a gallwn ddechrau meddwl am ddatblygu therapïau wedi’u targedu.
“Yn y dyfodol gallwn, o bosibl, ganfod cleifion sydd â lefelau uwch o LYN neu fwtaniad genyn BRCA1, a dylunio therapi canser y fron sy’n addas i’w math nhw o ganser. Gallwn dargedu LYN i wella opsiynau therapi ar gyfer math ymosodol o ganser y fron.”