Symposiwm ar Anghydraddoldeb a’r Gwyddorau Cymdeithasol: Safbwyntiau o Frasil a’r DU
20 Rhagfyr 2018
Yn ddiweddar, croesawodd Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol gasgliad rhyngwladol o ysgolheigion, ymchwilwyr a myfyrwyr ôl-raddedig o’r DU, Brasil, Tsieina a Japan.
Gwnaed cyfraniadau gan athrawon cymdeithaseg arweiniol ym Mrasil, gan gynnwys yr Athro Tom Dwyer o Universidade Estadual de Campinas (UNICAMP) a gyflwynodd feddyliau ar gydweithredu rhyngwladol gyda chydweithwyr ym Mrasil a Tsieina.
Fel golygydd Handbook of the Sociology of Youth in BRICS countries (2018), amlinellodd nifer o heriau sy’n ymwneud â haenu a deinameg economaidd-gymdeithasol ymysg pobl ifanc ym Mrasil, Rwsia, India a Tsieina (gwledydd BRICS), gyda sawl sylw ar addysg uwch.
Archwiliodd yr Athro Celi Scalon o Brifysgol Ffederal Rio de Janeiro lwybrau cymdeithasol ac economaidd grwpiau incwm canolig ym Mrasil, gan wrthgyferbynnu’r rhain â Tsieina. Cyflwynodd yr Athro Soraya Vargas Côrtes o Brifysgol Ffederal Rio Grande do Sul drosolwg diddorol o ddatblygiad polisi cymdeithasol ym Mrasil dros y 40 mlynedd ddiwethaf, a lle byddai’r wlad wedi’i lleoli mewn teipoleg ryngwladol o wladwriaethau lles.
Cyflwynodd yr Athro Sin Yi Cheung o Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ei gwaith ar bolisïau tai gwasgaredig a’r syniad eu bod yn achoswyr straen iechyd meddwl i ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn y DU.
Roedd y cyfraniadau eraill gan yr Ysgol yn cynnwys Dr Adam Edwards ar oblygiadau diogelwch ‘dinasoedd clyfar’ a’r Athro Paul Chaney ar blwraliaeth lles, hawliau a chynrychiolaeth yng Nghymru a’r byd tu hwnt.
Siaradodd yr Athro Alison Brown o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio am ei gwaith ar economïau anffurfiol a thrafododd Dr Shailen Nandy sut y gellid asesu tlodi amlddimensiwn mewn modd cymharol ar draws unrhyw rai neu bob un o’r cenhedloedd BRICS.
Cyflwynodd Dr Sara Delamont araith glo gan ddefnyddio Capoeira, dawns-gelfyddyd ymladd o Frasil, fel lens i fyfyrio ar ddeinameg y gorffennol a’r presennol mewn perthynas ag anghydraddoldeb ym Mrasil, a hefyd i ystyried goblygiadau’r llywodraeth newydd i ymchwilwyr ac ysgolheigion tlodi, anghydraddoldeb a lles.
Partneriaeth strategol
Cyd-darodd y symposiwm â llofnodi partneriaeth strategol rhwng Prifysgol Caerdydd ac UNICAMP. Mae’r bartneriaeth yn ymrwymo’r ddau sefydliad i gydweithio ar gyd-weithgareddau ymchwil a chyfnewid staff a myfyrwyr.
Mae’r broses wedi dechrau yn barod, gyda chynigion ymchwil eisoes wedi’u cyflwyno gan staff yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol ac UNICAMP i’r Gronfa Ymchwil Heriau Byd-eang. Drwy ddod ag ysgolheigion, ymchwilwyr a myfyrwyr ynghyd, gwnaeth y symposiwm alluogi cyfranogwyr i rwydweithio, nodi meysydd cyffredin o ddiddordeb a ffurfio egin-bartneriaethau a fydd yn datblygu dros y blynyddoedd i ddod.