Dathlu Rhagoriaeth
20 Rhagfyr 2018
Mae Athro Gweithrediadau Gwasanaeth a Darllenydd mewn Cyfrifeg a Chyllid wedi'u cydnabod am eu cyfraniadau rhagorol i addysgu a gwella profiad staff yng Ngwobrau Dathlu Rhagoriaeth Prifysgol Caerdydd 2018.
Derbyniodd yr Athro Maneesh Kumar a Dr Sue Bartlett, o Ysgol Busnes Caerdydd, y gwobrau mewn achlysur dathlu ar 21 Tachwedd yn y Neuadd Fawr, Undeb y Myfyrwyr.
Mae’r Gwobrau’n dathlu staff Prifysgol Caerdydd sy’n mynd yr ail filltir ar draws amrywiaeth o gategorïau.
Eleni, cafodd 188 o aelodau staff unigol a grwpiau o staff eu henwebu ar draws 15 o gategorïau.
Yn ogystal â'r ddau enillydd, gosodwyd Dr Bahman Rostami-Tabar, Darlithydd mewn Gwyddor Rheoli a'r Athro Helen Williams, Deon Cyswllt ar gyfer Dysgu ac Addysgu, ar y rhestr fer ac roedden nhw'n bresennol i ddathlu llwyddiant eu cydweithwyr ar y noson.
Dywedodd yr Athro Maneesh Kumar, deiliad Cadair Gweithrediadau Gwasanaeth Ysgol Busnes Caerdydd: “Mae'n anrhydedd cael y gydnabyddiaeth hon a hoffwn ddiolch i'r Athro Peter Wells am fy enwebu ac am ei neges hyfryd i gefnogi fy achos. Diolch hefyd i Sarah Lethbridge am gefnogi fy nghais.
“Bu'n bleser addysgu ar yr MBA Gweithredol dros y saith mlynedd ddiwethaf ac arbrofi gyda fy arddull addysgu a dull cyflwyno...”
Gweld, clywed, gwerthfawrogi
Dywedodd Dr Sue Bartlett, Darllenydd mewn Cyfrifeg a Chyllid yn Ysgol Busnes Caerdydd: “Roedd yn sioc i gael fy enwebu, ac yn fwy fyth o sioc i ennill, ac roedd yr holl negeseuon caredig o gefnogaeth a ddaeth gan fy nghydweithwyr yn adran Cyfrifeg a Chyllid yr Ysgol y diwrnod canlynol yn syfrdanol. Roedd cael fy enwebu gan fy nghydweithwyr yn gwneud i mi deimlo'n ostyngedig...”
“Roedd yn braf darganfod bod pobl yn sylwi ar y gwerthoedd craidd hyn.”
Arweiniwyd y digwyddiad gan yr Athro Karen Holford, Rhag Is-Ganghellor, a'r Athro Amanda Coffey, Dirprwy Is-Ganghellor Profiad y Myfyriwr a Safonau Academaidd.
Lle arbennig iawn i weithio ac astudio
Dywedodd Rhag Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd, yr Athro Karen Holford: “Pleser o’r mwyaf oedd cyd-gyflwyno’r gwobrau i ddathlu ein pobl ragorol. Roedd yn noson wirioneddol hyfryd a hoffwn ddiolch i bawb a enwebodd gydweithiwr, y rhai a enwebwyd a’r enillwyr am eu brwdfrydedd a’u rhagoriaeth eithriadol...”
Yn ogystal â'r 15 gwobr, rhoddwyd cydnabyddiaeth arbennig i'r Athro Sioned Davies o Ysgol y Gymraeg a dderbyniodd Wobr Cyflawniad Oes, a Julia Leath, Ystadau a Chyfleusterau Campws a dderbyniodd Gwobr yr Is-Ganghellor am Gyfraniad Rhagorol i'r Brifysgol.
Dyma restr yr holl enillwyr a chyfle i wylio ffilmiau byr am y rhai a enwebwyd ym mhob categori.