Canmoliaeth y DU i ‘Mabwysiadu Gyda’n Gilydd’
20 Rhagfyr 2018
Mae prosiect ar y cyd i gryfhau gwasanaethau mabwysiadu wedi ennill gwobr genedlaethol nodedig.
Enillodd Mabwysiadu Gyda’n Gilydd – gwaith ar y cyd rhwng Cymdeithas Plant Dewi Sant, Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd ac Ysgol Busnes Caerdydd – yr anrhydedd arloesedd yng Ngwobrau'r Institute for Collaborative Working yn Llundain.
Nod Mabwysiadu Gyda’n Gilydd, a arweinir gan Gymdeithas Plant Dewi Sant, yw diwallu angen arbennig a ddynodwyd gan y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol wrth ddod o hyd i gartrefi parhaol ar gyfer plant sy’n aros yr hiraf am deuluoedd a’u cefnogi.
Mae hyn yn cynnwys plant dros bedair oed, brodyr a chwiorydd, a’r rhai sydd ag anghenion cymhleth neu broblemau datblygiadol.
Mae’r fenter gydweithredol yn datblygu gwasanaethau hynod arloesol sy’n arwain y sector, ac sy’n seiliedig ar anghenion a nodwyd yn genedlaethol.
Bydd y tîm – sy’n cynnwys partneriaid therapiwtig a chydweithwyr o Barnardo’s ac Adoption UK – yn cynnig rhaglen arbenigol o gymorth mabwysiadu dan arweiniad seicolegydd, cyn ac ar ôl i’r plentyn gael ei leoli i’w fabwysiadu.
Dechreuodd y prosiect fel Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru ym mis Medi 2017. Trwy arweiniad uniongyrchol Dr Jane Lynch yn Ysgol Busnes Caerdydd, a gyda chefnogaeth gan Coralie Merchant, Cyswllt PTG, mae Mabwysiadu Gyda’n Gilydd wedi creu strwythur, sy’n cynrychioli newid trawsnewidiol yn y broses o gaffael gofal cymdeithasol sy'n cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Wrth dderbyn y wobr genedlaethol mewn seremoni yn Nhŷ’r Arglwyddi, dywedodd Dr Katherine Shelton, o’r Ysgol Seicoleg: “Mae Dr Jane Lynch a minnau wrth ein bodd o weld ‘Mabwysiadu Gyda’n Gilydd’ yn derbyn y Wobr Arloesedd gan yr Institute for Collaborative Working.
Cafodd y bartneriaeth gefnogaeth ariannol gan raglen Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP).
Nod Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth yw helpu busnesau i wella eu cystadleurwydd a’u cynhyrchiant trwy wneud defnydd gwell o'r wybodaeth, technoleg a sgiliau o fewn sylfaen wybodaeth y DU.
Mae'r KTP, sydd wedi ariannu gan Ymchwil ac Arloesedd y DU trwy Arloesedd y DU, yn rhan o Strategaeth Ddiwydiannol y llywodraeth.
Cafodd y prosiect gymeradwyaeth uchel hefyd yng Ngwobrau GO Wales fis diwethaf, sy’n dathlu llwyddiannau caffael.