Carolau Cernyweg o bob cwr o’r byd
18 Rhagfyr 2018
Cynhelir gwasanaeth carolau yng Nghadeirlan Truro fydd yn cyflwyno carolau Cernyweg a gasglwyd yn yr UDA ac Awstralia gan Kate Neale, sy’n fyfyriwr PhD.
Ar ôl cyflwyno ei PhD yn ddiweddar, mae Kate Neale yn ymchwilio i repertoire, trosglwyddiad a datblygiad traddodiad carolau o Gernyw i gymunedau tramor yn Grass Valley, California, a’r Triongl Copr yn ne Awstralia. Mae wedi teithio i’r holl leoedd hyn ar draws y byd i chwilio am y carolau.
Bydd y gwasanaeth, a gynhelir yng Nghadeirlan Truro ddydd Iau 20 Rhagfyr, yn dod â charolau at ei gilydd a ddiflannodd gyda’r bobl a ymfudodd o Gernyw wrth iddynt adael y DU i chwilio am waith, cyfoeth a rhyddid ysbrydol yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Mae Kate wedi casglu llyfrgell o garolau gan deuluoedd, archifau, llyfrgelloedd a chapeli. Yn y gyngerdd arbennig hon, bydd y carolau yn dychwelyd i’w mamwlad, o’r diwedd, i gael eu canu gan gantorion Cernyweg.
Bydd cantorion ledled y wlad yn dod at ei gilydd o dri chôr cymunedol, gyda phob un yn canu tair carol o Gernyw, de Awstralia a Chalifornia. Cânt eu harwain gan y cyfarwyddwyr cerddorol Emma Mansfield, Hilary Coleman, Matt Thomason a Giles Wooley.
Bydd Kate hefyd yn siarad yn y gyngerdd, yn cyflwyno pob rhan ac yn rhannu canfyddiadau o’i chyfnod yn teithio.
Dywedodd Kate, wrth siarad am y gyngerdd a’i hymchwil: “Mae wedi bod yn bleser pur ac yn fraint astudio’r gerddoriaeth a’r cymunedau a’u trysorodd o’r 19eg ganrif hyd heddiw. Rwyf mor gyffrous i glywed y carolau hyn yn cael eu canu gan gorau yng Nghernyw, a bydd eu clywed yng Nghadeirlan Truro yn hyfryd dros ben. Mae’r ymateb gan y cantorion wedi bod yn wych, ac rwy’n gobeithio y gallwn barhau i ddathlu’r cysylltiadau gyda’n cefndryd pell yng Nghalifornia a de Awstralia mewn cân!”