Cymdeithas OR yn dyfarnu teitl Cydymaith Ymchwil Weithrediadol i’r Athro Paul Harper
18 Rhagfyr 2018
Mae Cymdeithas OR wedi dyfarnu teitl Cydymaith Ymchwil Weithrediadol i’r Athro Paul Harper, un o wobrau mwyaf nodedig y Gymdeithas.
Dyfarnwyd y wobr i’r Athro Harper am ei gefnogaeth a’i anogaeth barhaus i ddatblygiad Ymchwil Weithrediadol (OR) a’i wasanaeth eithriadol i Gymdeithas OR a chymuned ehangach OR. Ef bellach yw derbynnydd ieuengaf y wobr erioed.
Dechreuodd yr Athro Harper ei waith ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2007, pan gafodd ei benodi yn gadeirydd ymchwil ym maes Ymchwil Gweithrediadol a daeth yn bennaeth ar grŵp OR yn 2009. Aeth ymlaen i ddatblygu dau gwrs ôl-raddedig OR newydd, sydd â chysylltiadau diwydiannol cryf yn benodol, a lansiwyd yn 2010. Mae hyn wedi arwain at wneud Prifysgol Caerdydd yn un o ddarparwyr mwyaf cyrsiau OR ar lefel ôl-raddedig yn y DU.
Mae cyflawniadau ymchwil yr Athro Harper yr un mor drawiadol, a dystir gan y grantiau y mae wedi’u hennill, ei 90+ o gyhoeddiadau, a’i fyfyrwyr PhD (20 wedi cwblhau a chyfredol). Ond nid ymchwil sy’n aros mewn papurau yw hyn yn unig; dyma ymchwil sy’n cael effaith go iawn a enillodd gwobr Arloesedd ac Effaith Prifysgol Caerdydd ddwywaith, yn ogystal â gwobr nodedig Addysg Uwch y Times am ‘Gyfraniad Anhygoel i Arloesedd a Thechnoleg’ ynghyd â Jeff Griffiths.
Mae hefyd wedi cyfrannu’n helaeth at gymuned OR ac ar hyn o bryd mae’n Brif Olygydd sefydlol cyfnodolyn Systemau Iechyd Cymdeithas OR (ers 2010); yn cynrychioli OR ar Bwyllgor Penaethiaid Gwyddorau Mathemategol (HoDoMS); ac yn aelod o Banel Ymchwil y Gymdeithas.
Mae teitl Cydymaith Ymchwil Weithrediadol y Gymdeithas yn cydnabod pwysigrwydd ac effaith ei ymchwil, ei gyfraniadau at welededd a dylanwad OR, a’i gefnogaeth i gymuned ehangach OR.