Syr Mark Walport yn ymweld â Phrifysgol Caerdydd
18 Rhagfyr 2018

Mae Syr Mark Walport wedi ymweld â Phrifysgol Caerdydd i gael gwybod rhagor am ei gwaith yn hybu diwydiannau sgrîn yn ne Cymru.
Cafodd Prif Weithredwr Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI) sydd newydd ei ffurfio, daith o amgylch cartref newydd yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant yn Dau Sgwâr Canolog, cyn cael rhagor o wybodaeth am y Clwstwr Creadigol.
Yn gynharach eleni, arweiniodd y Brifysgol gais llwyddiannus i Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC). Mae’r Rhaglen Clystyrau Diwydiannau Creadigol, sy’n rhan o Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU, yn dod â thalent ymchwil o’r radd flaenaf ynghyd o brifysgolion gorau’r DU a chwmnïau a sefydliadau o bob rhan o’r sector creadigol.
Gan weithio mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, ynghyd â Llywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd, pob un o’r prif ddarlledwyr yng Nghymru, a thros 60 o fusnesau’r diwydiant, mae Clwstwr Creadigol yn un o naw prosiect sydd wedi’u dewis ar gyfer y ffrwd ariannu 5 mlynedd.
Yn rhan o’i ymweliad, cafodd Syr Mark gyflwyniad i’r Clwstwr Creadigol gan y cyfarwyddwr, yr Athro Justin Lewis, yn ogystal â chlywed gan bartneriaid y brifysgol ac unigolion o’r diwydiant. Aeth hefyd i ymweld â phencadlys newydd BBC Cymru, sydd y drws nesaf i’r Ysgol.
Dywedodd Syr Mark Walport, a oedd yng Nghaerdydd i lansio UKRI yng Nghymru: “Mae ehangder a dyfnder ymchwil ac arloesedd yng Nghymru yn chwarae rôl bwysig wrth sbarduno llwyddiant y DU ar lwyfan y byd, ac mae Clwstwr Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd yn enghraifft wych.
“Wrth ddwyn talent ymchwil o’r radd flaenaf ynghyd o brifysgolion blaenllaw a chwmnïau a sefydliadau ar draws y sector creadigol, bydd yn gwneud yn siŵr bod diwydiannau sgrîn sy’n ffynnu yn y rhanbarth hwn yn cyrraedd eu llawn botensial.”
Dywedodd yr Athro Justin Lewis: “Rydym wrth ein bodd o allu dangos i Syr Mark Walport, pennaeth UKRI, pa waith mae Clwstwr Creadigol yn ei wneud i roi arloesedd wrth wraidd y diwydiant sgrîn yn ne Cymru.
“Ers derbyn Clwstwr y Diwydiannau Creadigol gan AHRC ym mis Medi, rydym wedi bod yn gwneud y gwaith paratoi ar gyfer Clwstwr Creadigol gyda’r bwriad o allu agor ceisiadau diwydiannol ar gyfer y rhaglen Ymchwil a Datblygu cyntaf ym mis Mawrth 2019.

Mae ein gwaith yn ymwneud â chyd-gynhyrchu rhwng ymchwilwyr, busnesau, sefydliadau creadigol, cyrff allweddol yn y sector a’r llywodraeth ar draws y clwstwr - gan ei wneud yn enghraifft wych o ymagwedd Prifysgol Caerdydd tuag at arloesedd.
Gan roi pwyslais ar y diwydiannau sgrîn – cynhyrchiant ffilm a theledu a’u cadwyni cyflenwi – bydd academyddion o dair prifysgol Caerdydd yn cydweithio i lunio gwaith ymchwil a all helpu’r sîn yn ne Cymru, sydd eisoes yn ffynnu, i gyrraedd ei llawn botensial.
Ym mis Medi, symudodd y myfyrwyr newyddiaduraeth i adeilad modern newydd yn y Sgwâr Canolog, sydd wedi gwella technoleg a chysylltiadau gyda’r cyfryngau Cymraeg.