Ysgolor Marshall
18 Rhagfyr 2018
Mae un o fyfyrwyr mwyaf disglair yr UDA yn paratoi ar gyfer gyrfa ym myd newyddiaduraeth trwy radd meistr ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae Klaudia Jaźwińska yn un o 43 o dderbynwyr Ysgoloriaeth Marshall 2018 sydd wedi ymgymryd â chyrsiau mewn sefydliadau ar draws y DU. Mae hi wedi dewis astudio MSc mewn Newyddiaduraeth Gyfrifiadurol a Data.
Dywedodd: “Mae newyddiaduraeth foesegol o safon, sy’n ymdrin â materion go iawn sy’n effeithio ar bobl, yn bwysicach nag erioed. Nid oes unman arall yn y DU yn cynnig cwrs sy’n rhoi sgiliau mor ymarferol a pherthnasol i newyddiadurwyr ymchwiliol.
“Rwy’n ennill sgiliau gwerthfawr a fydd yn fy ngalluogi i ddehongli a chwestiynu’r nifer cynyddol o wybodaeth sy’n cael ei gasglu drwy ddulliau digidol.”
Mae Ysgoloriaethau Marshall yn ariannu Americanwyr ifanc deallus i astudio am radd yn y Deyrnas Unedig. Mae’r ysgoloriaeth yn rhoi cyfle iddynt ymgymryd ag astudiaeth raddedig dros gyfnod o ddwy flynedd mewn sefydliad o’u dewis. Mae’n un o’r anrhydeddau uchaf y gall myfyriwr israddedig o’r UDA ei dderbyn, ac mae nifer o’r myfyrwyr yn mynd yn eu blaenau i fod yn arweinwyr y dyfodol neu gael swyddi o gryn bwysigrwydd yn yr UDA.
Mae’r ysgoloriaethau yn hynod gystadleuol ac uchel eu parch, gyda nifer o’r enillwyr yn dewis Prifysgolion Rhydychen neu Gaergrawnt neu sefydliadau yn Llundain ar gyfer eu hastudiaethau yn bennaf.
Bu Klaudia yn astudio BA mewn Astudiaethau Byd-eang a Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Lehigh yn yr UDA, ac ymgymryd â rôl prif olygydd papur newydd ei phrifysgol.
“Rwy’n teimlo’n hynod o falch o fod wedi ennill yr ysgoloriaeth hon,” meddai Klaudia, a fydd yn treulio’r flwyddyn yng Nghaerdydd cyn gwneud cais i astudio am flwyddyn mewn lleoliad arall yn y DU. “Hoffwn ddefnyddio fy ngwybodaeth a fy mhrofiad i daflu goleuni ar y llu o anghydraddoldebau yn y byd. Mae’r newyddiaduraeth orau yn rhoi llais i’r rheini nad ydynt yn cael eu clywed ac rwy’n bwriadu gwneud popeth o fewn fy ngallu i gyfrannu at yr achos hwn.”