Ewch i’r prif gynnwys

Datblygu dinasoedd clyfar y dyfodol

17 Rhagfyr 2018

Croesawodd Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd amrywiaeth o academyddion blaenllaw a rhanddeiliaid diwydiannol i Gaerdydd i'r digwyddiad 'Dinas y Dyfodol' ar 7 Rhagfyr 2018.

Roedd y seminar hanner diwrnod yn trafod cysyniad a datblygiad 'dinasoedd clyfar'. Roedd y ffocws ar sut y gallai offerynnau a thechnolegau digidol, fel data mawr, synwyryddion cysylltiedig a chyfrifiadura gwybyddol helpu i ymdrin â heriau trefol mawr a chreu dinas newydd y dyfodol.

Roedd cyflwyniadau gan academyddion blaenllaw'n edrych ar ddiffiniadau o ddinasoedd clyfar ac ystyriaethau ymarferol, moesegol a gwleidyddol ynghylch y defnydd o dechnoleg ddigidol. Canolbwyntiwyd ar dri maes thematig: Y Ddinas Gynhyrchiol; y Ddinas Gynhwysol; a'r Ddinas Effeithlon o ran Adnoddau.

  • Gan dynnu ar ei ymchwil cymwysedig, dangosodd Duncan Wilson, Athro Amgylcheddau Cysylltiedig yng Nghanolfan Dadansoddi Gofodol Uwch Bartlett, Coleg y Brifysgol, Llundain, fod y ddealltwriaeth o sut a phryd i gymhwyso technoleg ddigidol yn yr amgylchedd trefol wedi newid.
  • Diffiniodd Chris Rogers, Athro Peirianneg Geodechnegol ym Mhrifysgol Birmingham, y ddinas glyfar fel dinas gynaliadwy, ac esboniodd gwerth yn y cyd-destun hwnnw gan gyflwyno fframweithiau penderfynu ar gyfer ymyriadau trefol.
  • Edrychodd Elena Simperl, Athro Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Southampton ar gyfrannu torfol fel offeryn ar gyfer deall dinasoedd a rhyngweithio gyda nhw.
  • Eglurodd Wendy Tipper, Cyfarwyddwr Cyswllt Trawsnewid yn Arup, ac Isabelle Bignall, Prif Swyddog Digidol Cyngor Caerdydd, sut roedd gweinyddiaeth busnes a dinasoedd yn defnyddio datrysiadau 'clyfar' i broblemau trefol gan sôn am sut y gallai eu sectorau gydweithio'n fwy effeithiol gyda'r byd academaidd.

Yn dilyn y cyflwyniadau, ymunodd Peter Madden, Athro Ymarfer mewn Dyfodol Dinasoedd yn yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, â'r siaradwyr am drafodaeth banel. Trafodwyd yr heriau a'r rhwystrau sy'n llesteirio cydweithio rhwng busnes, llywodraeth a'r byd academaidd gan ystyried ffyrdd i'w datrys. Trafododd y panel hefyd rai o'r dadleuon moesegol, cymdeithasol a gwleidyddol ynghylch dinasoedd clyfar a thechnoleg ddigidol dreiddiol.

I gloi'r digwyddiad, esboniodd yr Athro Rob Huggins, Cyfarwyddwr Ymchwil yr Ysgol, y byddai'r cyflwyniadau a'r drafodaeth yn llywio blaenoriaethau'r Ganolfan Ymchwil Dinasoedd yn y dyfodol. Darllenwch ragor am y Ganolfan.

Rhannu’r stori hon

Mae'r Ysgol yn defnyddio meddwl beirniadol a gwybodaeth ymarferol i ddatrys problemau economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol er mwyn mynd i'r afael â’r heriau mawr y mae cymdeithasau dynol a lleoedd yn eu hwynebu heddiw.