Byrlymu gyda chreadigrwydd
15 Hydref 2018
Mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, wedi enwi’r pedwar myfyriwr sydd wedi derbyn Ysgoloriaeth Meddyliau Creadigol 2018 ac yn ennill £2,000 yr un.
Sefydlwyd yr Ysgoloriaethau yn 2015 ac maent wedi'u cynllunio i arddangos creadigrwydd a gwreiddioldeb ymgeiswyr israddedig, yn hytrach na gosod papur arholiad neu draethawd.
Enillwyr Ysgoloriaethau Meddyliau Creadigol eleni, a £2,000, oedd:
- Owain Ap Myrddin (Coleg Meirion-Dwyfor)
- Megan Hunter (Ysgol Uwchradd Dyffryn Nantlle)
- Holly Dawe (Ysgol Bassaleg)
- Phoebe Lewis (Coleg y Cymoedd, Nantgarw)
Gofynnwyd i'r ymgeiswyr baratoi cais sy'n dangos eu creadigrwydd, yn adlewyrchu eu personoliaethau ac yn mynegi eu syniadau mewn ffordd ddyfeisgar ac unigryw gan gyfeirio at: pam y maent eisiau astudio Cymraeg yng Nghaerdydd, beth sy'n eu gwneud yn ymgeiswyr arbennig a pham y dylai Ysgol y Gymraeg eu dewis nhw.
Cafwyd nifer o geisiadau o bob rhan o Gymru, gyda phosteri, cerddi, cylchgronau a darnau o gelf yn cyrraedd swyddfa'r Ysgol.
Dywedodd Dr Angharad Naylor, Tiwtor Derbyn Ysgol y Gymraeg: "Fe gawsom nifer o geisiadau cryf ac felly roedd y gwaith o ddewis y pedwar enillydd yn arbennig o anodd. Rydym yn parhau i ryfeddu at ddull gwreiddiol ac unigryw yr holl ymgeiswyr wrth baratoi eu ceisiadau. Rydym yn diolch iddynt am eu brwdfrydedd ac yn llongyfarch ein henillwyr."