Dronau’n canfod nythod troellwyr mawr, rhywogaeth warchodedig
17 Rhagfyr 2018
Gallai camerâu thermol ar ddronau gynnig dull mwy diogel a chost-effeithiol o leoli nythod y troellwyr mawr sy’n anodd dod o hyd iddynt, ger gwaith coedwigaeth ac adeiladu, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd.
Cynhaliodd y tîm o Ysgol Biowyddorau’r Brifysgol astudiaeth beilot ym Mryn, planhigfa gonwydd a reolir gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn ne Cymru, i brofi a fyddai dronau’n addas ar gyfer canfod lleoliadau nythod yr adar gwarchodedig.
"Mae’r dulliau cyfredol o chwilio am nythod troellwyr mawr ar droed yn ddrud a gall beri risg i iechyd a diogelwch pobl, yn enwedig mewn safleoedd gwaith lle mae coed wedi’u torri," meddai Mike Shewring, myfyriwr PhD o Brifysgol Caerdydd.
"Mae troellwyr mawr wedi’u cuddliwio fel eu bod yn edrych fel boncyff ar y llawr neu bren marw. Maent yn nythu ar y llawr. Pan mae pobl yn agosáu atynt ac maent yn dal eu tir er mwyn cadw ynghudd. O ganlyniad, mae bron yn amhosibl eu gweld yn ystod y dydd pan maent yn segura,” ychwanegodd.
I brofi'r dull newydd, defnyddiodd y tîm y dronau i gymryd ffotograffau thermol o safleoedd nythu, lle roedd gwaith arsylwi ac olrhain radio blaenorol wedi dangos bod troellwyr mawr yn bridio rhwng mis Mai a mis Awst. Cymerwyd delweddau ar wahanol uchderau (10, 20 a 50 metr) gyda’r wawr, am hanner dydd a gyda’r nos. Cafodd y nythod eu harsylwi o bellter er mwyn gweld a oedd y dronau’n aflonyddu ar yr adar.
O’r ffotograffau, gallai’r ymchwilwyr ganfod nythod, oherwydd bod tymheredd cyrff y troellwyr mawr yn gwrthgyferbynnu’n gryf (40°C) â’r ardal oerach yn y cefndir. Y delweddau a gymerwyd o ddeng medr i ffwrdd yn ystod adegau oeraf y dydd (gyda’r wawr a’r nos) oedd y rhai mwyaf defnyddiol. Gan fod y gwyddonwyr yn gwybod pa mor uchel oedd y dronau pan gymerwyd y lluniau, roedd y tîm yn gallu amcangyfrif maint cyrff y troellwyr mawr i gadarnhau’r rhywogaeth.
"Mae ein canfyddiadau cychwynnol yn dangos sut gallai dronau helpu i arolygu troellwyr mawr yn ystod eu tymor bridio. Mae’n gadael i reolwyr coedwigaeth leoli nythod yn fwy cywir a chynllunio eu gwaith yn well. Hefyd, gallai'r fethodoleg hon gael ei defnyddio ar gyfer gwahanol gyd-destunau, drwy ei haddasu i ganfod unrhyw rywogaethau gwaed cynnes,” dywedodd goruchwylydd y prosiect, Dr Robert Thomas.
Gwnaeth pob troellwr mawr aros yn stond ar eu nythod yn ystod hediadau’r drôn, fel y maent yn ei wneud fel arfer er mwyn cuddio rhag ysglyfaethwyr.
“Dydyn ni ddim yn gwybod a yw’r troellwyr mawr yn gweld y dronau fel ysglyfaethwyr ai peidio. Byddai hyn yn bwnc da i’w ystyried yn y dyfodol er mwyn gwneud yn siŵr nad yw golwg neu sŵn y dronau’n effeithio’n negyddol ar lefelau straen neu fetabolaeth yr adar,” dywedodd Shewring i gloi.
Cyflwynodd Mike Shewring boster am ei waith ddydd Llun 17 Rhagfyr 2018 yng nghyfarfod blynyddol Cymdeithas Ecolegol Prydain. Mae’r gynhadledd yn dod â 1,200 o ecolegwyr ynghyd o dros 40 gwlad er mwyn trafod yr ymchwil ddiweddaraf.