Chemistry of Pollutants
14 Rhagfyr 2018
Dathlodd ymchwilwyr o’r Ysgol Cemeg yr Wythnos Gemeg Genedlaethol drwy gynnal digwyddiad allgymorth ar gyfer plant ysgol lleol am gemeg ein hamgylchedd.
Cafodd digwyddiad “Cemeg Llygryddion - Deall ein Hamgylchedd” ei gynnal yn Amgueddfa Cymru ar 24 Tachwedd gyda dros 700 o bobl yn bresennol. Y Gymdeithas Gemeg Frenhinol a noddodd y digwyddiad yn rhan o brosiect blwyddyn o hyd sy’n ceisio cynnal gweithgareddau ymarferol mewn ysgolion lleol sy’n ategu’r cwricwlwm.
Roedd y gweithgareddau ar gyfer y plant ysgol yn cynnwys sbectrosgopeg ffonau clyfar i ddangos bandiau allyriadau elfennol, cromatograffeg ymarferol a strwythurau mandyllog, dulliau wedi’u pweru gan bedalau o rannu dŵr er mwyn cynhyrchu hydrogen, ac edrych ar fecanwaith ffurffio cymylau.
Cafodd y digwyddiad ei baratoi a’i drefnu gan Dr Joseph Beames a Dr Emma Richards mewn partneriaeth â Dr Jana Horak (Pennaeth Mwynoleg a Phetroleg, Amgueddfa Cymru). Cymerodd nifer o israddedigion ac ôl-raddedigion ran yn y digwyddiad, o dan arweiniad Alexander Tansell (myfyriwr PhD 3edd flwyddyn), drwy arddangos y gweithgareddau a rhyngweithio ag ymwelwyr.