Y Brifysgol yn codi un lle yn Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd
15 Medi 2015
Mae'r Brifysgol wedi parhau i wneud cynnydd mewn tabl cynghrair prifysgolion rhyngwladol mawreddog.
Mae'r Brifysgol wedi codi un lle i safle 122 yn Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd 2015/16, ei safle uchaf ers rhestr 2010/11.
Gwnaed gwelliannau mawr parthed rhai dangosyddion allweddol fel enw da cyflogwyr a nifer y myfyrwyr rhyngwladol.
Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor y Brifysgol: "Er na fydd rhestrau o'r fath yn ein gwyro oddi ar ein prif nod, sef rhagoriaeth ymchwil ac addysgu o'r safon uchaf, mae'n braf gweld cynnydd diweddar y Brifysgol yn Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd. Dyma ffrwyth gwaith caled pawb.
"Rhaid i ni fynd ati nawr i adeiladu ar y llwyddiant hwn os ydyn ni am gyflawni ein nod o sicrhau lle yn y 100 gorau erbyn 2017.
"Elfen hollbwysig o'r cynnydd hwn fydd buddsoddiad parhaus y Brifysgol mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf, gan gynnwys ein campws arloesedd £300m, i wneud yn siŵr ein bod yn parhau i ddenu'r staff a'r myfyrwyr gorau i Gaerdydd."
Mae'r Brifysgol wedi gwneud cynnydd cyson yn Rhestr QS o Brifysgolion Gorau'r Byd dros y blynyddoedd diwethaf. Yn 2012/13 rhoddwyd y Brifysgol yn safle 143, cyn codi i safle 136 yn 2013/14, yna 123 yn 2014/15.
Ar wahân i enw da cyflogwyr a nifer y myfyrwyr rhyngwladol, gwnaed gwelliannau hefyd ym maes enw da academaidd a chymhareb staff/myfyriwr.
Mae'r canlyniadau hyn yn adeiladu ar berfformiad rhagorol y Brifysgol yn Rhestr QS fesul pwnc a gyhoeddwyd ym mis Ebrill.
Roedd y rhestr fesul pwnc yn dangos bod y Brifysgol ymysg sefydliadau gorau'r byd mewn 25 o 33 o bynciau.