Maint tai yn cynyddu ar ôl i gorwyntoedd daro
11 Rhagfyr 2018
Mae ymchwil yn awgrymu bod pobl sydd wedi dioddef o ganlyniad i gorwyntoedd yr UDA yn fwy agored i gael eu heffeithio gan drychinebau’r dyfodol am eu bod yn ail-adeiladu eu tai yn fwy nag o’r blaen.
Mewn astudiaeth newydd, mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd wedi dangos bod tai sydd wedi’u taro gan gorwyntoedd mewn lleoliadau penodol yn cael eu disodli gan dai newydd sydd, mewn rhai ardaloedd, dros 50 y cant yn fwy.
Mae hyn er gwaethaf degawdau o ymdrechion rheoleiddiol yn yr UDA i ddarbwyllo pobl i beidio ag adeiladu mewn ardaloedd arfordirol sy’n fwy o tueddol o gael eu taro gan gorwyntoedd, er mwyn lleihau’r perygl.
Mae’r astudiaeth, sydd wedi’i chyhoeddi heddiw yng nghyfnodolyn Nature Sustainability, wedi nodi patrwm systematig o “ail-adeiladu yn fwy” ymysg adeiladau newydd a rhai wedi’u hadnewyddu mewn ardaloedd sydd wedi’u taro gan gorwyntoedd.
Casglwyd y canlyniadau trwy ddadansoddiad o ddelweddau lloeren mewn pum lleoliad gwahanol ar Arfordiroedd yr Iwerydd a’r Gwlff yn yr UDA lle mae un neu fwy o gorwyntoedd wedi taro ers 2003. Mae’r pum lleoliad, gyda phob un yn cael eu hadnabod fel Ardaloedd Perygl Llifogydd Arbennig, wedi goroesi chwe system corwynt gwahanol rhwng 2003 a 2012, ac wedi eu difrodi gan wynt, ymchwydd stormydd a thonnau.
Yr ardaloedd oedd Mantoloking, New Jersey; Hatteras a Frisco, Gogledd Carolina; Ynys Santa Rosa, Florida; Ynys Dauphin, Alabama; a Bolivar, Texas.
Yn eu hastudiaeth, bu’r tîm yn cyfrifo'r arwynebedd a oedd yn cynnwys adeiladau preswyl unigolion, a alwyd yn ôl-troed adeilad, ychydig cyn i’r corwynt diwethaf daro ac yna eto yn 2017.
Dangosodd y canlyniadau bod maint yr ôl-troed ar draws y pum ardal wedi cynyddu, o rhwng 19% yn Hatteras i 49% yn Ynys Santa Rosa.
Yn ychwanegol, roedd adeiladau newydd sbon a adeiladwyd ar ôl i’r corwynt daro hefyd yn fwy nag adeiladau a oedd yn bodoli eisoes, gan gynyddu o 14 y cant yn Mantoloking i 55 y cant yn Santa Rosa Island.
Dywedodd Dr Eli Lazarus, prif awdur yr ymchwil: “Mae ymchwil arall wedi dangos nad yw tai mwy yn cael eu hamddiffyn yn well rhag effeithiau corwyntoedd o reidrwydd. Fel arfer, y tai sy’n dueddol o oroesi corwyntoedd orau yw’r rhai sy’n bell oddi wrth y traeth ac ar dir uwch.”
Yn ôl yr ymchwilwyr, roedd y cynnydd mewn maint tai yn fwy na chyfartaledd cenedlaethol yr UDA rhwng 2002 a 2016, a arhosodd yn 14-16%.
“Mae perchnogion sy’n adeiladu tai mwy mewn ardaloedd sy’n agored i gorwyntoedd yn cymryd risg eithriadol. Ond mae ein canfyddiadau yn adlewyrchu yr hyn mae economegwyr yn ei alw’n ‘berygl moesol’. Ystyr hyn yw mai nid eich cyfrifoldeb chi’n llwyr yw’r risg a gymerir; caiff ei rannu ymysg eraill – er enghraifft, os yw eich yswiriant llifogydd yn cael ei gefnogi’n ariannol gan drethdalwyr eraill”, yn ôl Dr Lazarus.
Cwblhaodd Rosie Dodd (cyd-awdur) yr astudiaeth yn rhan o Raglen Cyfleoedd Ymchwil Israddedig Caerdydd (CUROP), lle cynigir grant i fyfyrwyr israddedig am gyfnod o wyth wythnos i gymryd rhan mewn prosiectau ymchwil gyda goruchwylwyr academaidd.
Dywedodd: “Roedd Rhaglen Cyfleoedd Ymchwil Israddedig Caerdydd yn gyfle gwych i ymwneud ag amgylchedd ymchwil y brifysgol, a bod yn rhan o greu canfyddiadau sy’n cael effaith megis y rhain a gyhoeddwyd gan Dr Lazarus heddiw.”