Hwb ariannol mawr i gyfrifydd gobeithiol
11 Rhagfyr 2018
Mae myfyriwr o Brifysgol Caerdydd wedi rhoi cychwyn da i'w ymdrechion gyrfaol fel cyfrifydd achrededig ar ôl sicrhau bwrsariaeth glodfawr gan Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW).
Dechreuodd Scott MacLean, sy'n 19 oed ac o ardal Penlan yn Abertawe ar ei radd mewn Cyfrifeg ym mis Medi ar ôl ymateb i wahoddiad am geisiadau am fwrsariaeth o £12,000 gan ICAEW.
Dywedodd: “Pan ddywedais wrth fy nheulu a fy ffrindiau am yr arian doedd neb yn fy nghredu. Does dim posib dy fod wedi ennill deuddeg mil, ddwedon nhw. Roedden nhw'n meddwl mai jôc oedd y cyfan...”
Mae'r arian, sy'n un o naw dyfarniad yn unig ar draws y DU, yn rhan o raglen bwrsariaethau Newid Dyfodol yr ICAEW sy'n cynnig cyllid i fyfyrwyr talentog o gefndiroedd ariannol ddifreintiedig sy'n astudio graddau'n gysylltiedig â chyfrifeg neu gyllid yn y brifysgol.
Brwdfrydedd ac ymrwymiad
Roedd Scott, a gwblhaodd ei gyrsiau Safon Uwch mewn Cyfrifeg, Gwleidyddiaeth, y Gyfraith a'r Diploma Uwch mewn Cyfrifeg Lefel 3 AAT yng Ngholeg Gŵyr, wastad wedi bod yn awyddus i astudio yng Nghaerdydd ac mae'n gobeithio y bydd ei gyfnod yn y brifysgol yn arwain at swydd lefel gradd a gyrfa fel cyfrifydd achrededig.
Dywedodd Amy Nisbet, darlithydd Cyfrifeg Scott yng Ngholeg Gŵyr: “Mae Scott wastad wedi bod yn frwdfrydig ac wedi ymrwymo i'w astudiaethau ac i ddilyn gyrfa ym maes cyfrifeg.
“Yn y coleg, roedd yn gweithio gydag ymroddiad a chymhelliant gan brofi bod ganddo ddawn yn y pwnc gyda'r sgiliau academaidd a'r nodweddion personol priodol, ynghyd ag ymroddiad i lwyddo...”
Ychwanegodd Scott: “Astudiais i gyfrifeg i Safon Uwch felly roeddwn i'n meddwl y byddwn i ar y blaen, ond mae cymaint mwy yn y radd. Mae'n anodd iawn!
“Rwy'n gweithio'n galed ac yn dod i ddeall yr elfennau sylfaenol, pethau fel Cyfrifon T, Datganiadau Incwm a Mantolenni - y math o bethau y byddaf i'n eu gwneud bob dydd pan fyddaf i'n gyfrifydd.”
Myfyriwr eithriadol
Mae Scott wedi cofrestru ar raglen Cyfrifeg gyda Blwyddyn Lleoliad Proffesiynol (BSc) Ysgol Busnes Caerdydd fydd yn golygu y bydd yn ymgymryd â lleoliad gwaith am flwyddyn gyda chwmni cyfrifyddu yn ystod trydedd flwyddyn ei gwrs gradd.
Mae'r flwyddyn ryngosod yn gyfle i fyfyrwyr gael yr wybodaeth a'r sgiliau sy’n angenrheidiol i'w gyrfaoedd yn y dyfodol gyda chefnogaeth Tîm Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd yr ysgol.
Dywedodd Patrick Wylie, Darlithydd mewn Cyfrifeg a Chyllid yn Ysgol Busnes Caerdydd ac aelod o'r panel dyfarnu ar gyfer y fwrsariaeth ICAEW: “Roedd perfformiad academaidd cryf Scott ynghyd â'i awydd i ddilyn gyrfa yn y proffesiwn cyfrifyddu'n golygu ei fod yn fyfyriwr rhagorol i dderbyn y dyfarniad hwn...”
Rhagor o wybodaeth am fwrsariaeth Newid Dyfodol yr ICAEW.