Cymru: Tir, Llenyddiaeth, Hanes, Dysgu
11 Tachwedd 2018
Dysgwch fwy am Gymru yn 2019 gyda detholiad o gyrsiau rhan-amser i oedolion i'ch diddori ac ysbrydoli. Cynhelir y cyrsiau unwaith yr wythnos (dros gyfnod o 10 wythnos) yng nghanol Caerdydd, ac mae'r teitlau'n cynnwys:
- Archwilio Tirweddau Cymreig (dechrau ar 23/01/19)
- Ffuglen Caerdydd (dechrau ar 23/01/19)
- Cyflwyniad i Hanes Trefol De Cymru (dechrau ar 22/01/19)
- Trobwyntiau yn Hanes Cymru (dechrau 30/04/19)
- Y System Wleidyddol yng Nghymru (dechrau ar 31/01/19)
Mae cyrsiau ychwanegol ar gael. I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru, ewch i www.cardiff.ac.uk/learn neu ffoniwch ni ar 029 2087 0000 i gael copi o’n prosbectws. Rydym yn annog myfyrwyr i gofrestru cyn dyddiad dechrau’r cwrs i gadw eu lle. Mae maes parcio am ddim i fyfyrwyr sydd wedi cofrestru ar ein cyrsiau.
Rydym hefyd yn cynnig darlithoedd cyhoeddus AM DDIM a fydd o ddiddordeb i drigolion lleol:
- Y Mudiad dros Bleidlais i Fenywod yng Nghaerdydd (23/01/19)
- Dienyddio ym Mynydd Bychan Caerdydd: Y Barnwr Hardinge, dau ferthyr, a Therfysgoedd Merthyr ym 1800 (15/05/19)
- Eco Gwan y Lleisiau Oddi Tanom: Clywed am arferion cleifion drwy gyfrwng yr hyn a ysgrifennwyd gan gleifion yng Ngwallgofdy Morgannwg, 1864-1914 (12/06/19)
Does dim angen cofrestru ar gyfer y darlithoedd ymlaen llaw, dim ond mynd yno ar y noson. Mae’r darlithoedd yn dechrau am 19.15.
Addysg Barhaus a Phroffesiynol, 21-23 Ffordd Senghennydd, Caerdydd CF24 4AG
www.cardiff.ac.uk/learn 029 2087 0000