Hybu ymchwil ac addysg gyda Brasil
11 Rhagfyr 2018
Mae Prifysgol Caerdydd wedi llofnodi cytundeb ar gyfer partneriaeth strategol ag un o brifysgolion mwyaf blaenllaw Brasil er mwyn hybu’r cyfleoedd am ymchwil ac addysg ar gyfer staff a myfyrwyr.
Bydd y cytundeb newydd yn golygu bod y Brifysgol bellach yn bartner ag Universidade Estadual de Campinas, neu ‘Unicamp’.
Unicamp, a sefydlwyd ym 1966, yw un o brif ganolfannau ymchwil feddygol a gwyddonol Brasil. Mae Unicamp yn nhalaith São Paulo, ond mae ganddi gampysau cyswllt yn Limeira a Paulínia.
Mae'r bartneriaeth yn rhwymo’r ddwy brifysgol i gydweithio mewn meysydd lle mae'r naill a'r llall yn gwneud ymchwil. Y gobaith yw y gallai’r bartneriaeth baratoi'r ffordd i raglenni PhD ar y cyd a mwy o gyfleoedd i gyfnewid myfyrwyr.
Wrth lofnodi'r bartneriaeth strategol ar ran y Brifysgol, dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan: "Rydw i wrth fy modd yn llofnodi partneriaeth strategol ag Unicamp sy'n cynnig cymaint o gyfleoedd i academyddion a myfyrwyr fel ei gilydd.
"Mae'r bartneriaeth hon yn adeiladu ar gysylltiadau ymchwil ag Unicamp sy’n bodoli eisoes ac edrychaf ymlaen at ei gweld yn datblygu dros y blynyddoedd nesaf."
Mae’r bartneriaeth strategol newydd yn adeiladu ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth a lofnodwyd gan Brifysgol Caerdydd ac Unicamp yn 2015.
Prif amcan y Memorandwm oedd cefnogi cydweithredu â Choleg Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg y Brifysgol. Mae’r Memorandwm wedi arwain at gyfres o ymweliadau oedd yn canolbwyntio ar ymchwil. Roedd y rhain yn cynnwys tua chant o aelodau staff a thwf o ran cyhoeddiadau ar y cyd, ym meysydd Peirianneg Drydanol, Deintyddiaeth, y Geowyddorau a Chemeg yn bennaf.
Drwy lofnodi partneriaeth strategol ffurfiol sy'n cwmpasu meysydd ymchwil eraill, y gobaith yw bydd cyfleoedd i ehangu ymchwil gydweithredol a datblygu Cytundeb Symudedd Staff.
Bydd rhaglen gyfnewid israddedig ar ffurf Ysgolion Haf byrdymor yn cael eu hystyried, yn ogystal â graddau PhD deuol ar draws pob disgyblaeth.
Llofnodwyd y bartneriaeth strategol gan Reithor UNICAMP, yr Athro Marcelo Knobel a’r Is-Ganghellor, yr Athro Colin Riordan.