Datgelu gweithiau gan Morfydd Owen
10 Rhagfyr 2018
Ddydd Gwener 14 Rhagfyr yn Eglwys Dewi Sant, bydd Côr Siambr Prifysgol Caerdydd, dan arweiniad Peter Leech, yn cyflwyno gwaith corawl nas clywir yn aml gan y gyfansoddwraig o Gymru, Morfydd Owen, i nodi canmlwyddiant ei marwolaeth ym 1918.
Bydd y rhaglen yn cynnwys y perfformiad cyntaf yn y byd o ddau ddarn; Fierce raged the tempest (1911) a Jubilate Deo (1913). Bydd tri arall, Sweet & low (1911), The Refugee (c.1911) a My luve is like a red, red rose (1912), yn cael eu perfformiadau cyngerdd modern cyntaf ers cael eu creu, a'r perfformiadau cynnar gan Gôr yr Adran Cerddoriaeth yn yr hyn oedd yn Goleg Prifysgol Caerdydd ar y pryd.
Hyd heddiw, mae'r pum darn wedi'u cadw yn eu llawysgrifau gwreiddiol yng Nghasgliadau Arbennig Prifysgol Caerdydd. Yr haf hwn, ymgymerodd y myfyriwr Cerdd Megan Auld â Phrosiect Cyfleoedd Ymchwil Israddedig Caerdydd (CUROP) gan drawsgrifio'r darnau a'i gwneud yn bosibl iddynt gael eu perfformio a rhoi bywyd newydd iddynt unwaith eto.
Ganwyd Morfydd Owen yn Nhrefforest yn 1891, ac fel plentyn talentog enillodd ysgoloriaeth i astudio yn yr Ysgol Cerdd, yn yr hyn oedd yn Goleg Prifysgol Caerdydd ar y pryd. Graddiodd yn 1912, ac yn fuan sefydlodd enw iddi ei hun fel cyfansoddwr, pianydd a chantores.
Ymhen ychydig flynyddoedd yn unig, roedd Morfydd yn gyfansoddwr toreithiog, gan gynhyrchu dros 180 o ddarnau. Yn drasig, bu farw ar 7 Medi 1918 a hithau ond yn 26 oed.
Bu 2018 yn flwyddyn o berfformiadau niferus o'i gwaith, gyda'i gweithiau cerddorfaol a’i chaneuon yn fwyaf nodedig yn eu plith – repertoire sydd wedi dod yn gynyddol boblogaidd gyda chynulleidfaoedd. Fodd bynnag, mae’r nifer fach o weithiau corawl gyda rhannau ohonynt yn anorffenedig ar adeg ei marwolaeth lawer yn llai adnabyddus.
Dywedodd cyfarwyddwr y côr a threfnydd prosiect Ymchwil CUROP, Dr Peter Leech: "Rwy’n falch iawn y bydd y prosiect cyffrous a hynod werth chweil hwn yn cyflawni sawl amcan allweddol. Bydd wedi dod ag elfennau anghofiedig o gynnyrch cyfansoddiadol Morfydd Owen i amlygrwydd drwy berfformiadau cyhoeddus, yn ogystal â chynnig profiad archifol gwerthfawr i Megan.
"Mae'r prosiect hwn yn dangos sut y gall prosiect ymchwil amlweddog gyfoethogi ein bywydau drwy ailddarganfod cyfnod diddorol iawn yn hanes cerddoriaeth Cymru.
Bydd y Côr Siambr yn perfformio yn Eglwys Dewi Sant ddydd Gwener 14 Rhagfyr am 7pm. Tocynnau £5