Gwyddorau-Dyniaethau Caerdydd yn barod am y cam datblygu nesaf
7 Rhagfyr 2018
Grant Ymddiriedolaeth Wellcome yn cynnig cyfle i ganolbwyntio ar Boblogaethau, Egni a Dyfodol Iach
O ganlyniad i’w gwobr ddiweddaraf, mae disgwyl i fenter Gwyddorau-Dyniaethau Caerdydd ddod ag ymagwedd ddynol at feddygaeth ac iechyd gyda gwyddorau a technolegau eraill.
Bydd Building and Interrogating Relationships between the Medical Humanities and Humanities Approaches to the Sciences, a dderbyniodd Grant Bach Ymddiriedolaeth Wellcome yn y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol, yn canolbwyntio ar Boblogaethau (2018-19), Egni (2019-20) a Dyfodol Iach (2020-21) trwy ddigwyddiadau yn seiliedig ar themâu.
Bydd yr arian hefyd yn hwyluso parhad yr Ysgol Haf Gwyddorau-Dyniaethau hynod lwyddiannus i ôl-raddedigion, sy’n dod â myfyrwyr PhD o bob cwr o’r byd i’r Brifysgol am wythnos ddwys o weithgarwch rhyngddisgyblaethol.
Dywedodd y cyd-gyfarwyddwyr Yr Athro Martin Willis, yr Athro Keir Waddington a Dr Jamie Castell :
“Ein nod yw cynhyrchu ymchwil sy’n trawsnewid ein methodolegau ac yn ein galluogi i wynebu heriau’r dyfodol ynghylch ein dealltwriaeth o feddygaeth a iechyd. Mae atebion iechyd technolegol newydd diddorol dros ben, a ddatblygwyd trwy’r berthynas rhwng cyfrifiadureg a gofal iechyd, yn dangos bod gymaint mwy i’w ddysgu trwy fabwysiadu ymagweddau amgen. Mae archwiliad o’r fath wrth wraidd y cam newydd hwn o waith ar gyfer menter Gwyddorau-Dyniaethau Caerdydd.”
Mae Menter Gwyddorau-Dyniaethau, sydd wedi’i lleoli yn yr Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth a’r Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd, yn gweithio mewn partneriaeth ryngwladol â Chanolfan Astudiaethau Rhyngddisgyblaethol mewn Gwyddoniaeth a Theori Ddiwylliannol yng Ngogledd Carolina, Sefydliad Hanes Gwyddoniaeth Max Planck ym Merlin, a Phrifysgol Bremen.
Mae’r cyd-gyfarwyddwyr yn croesawu datganiadau o ddiddordeb drwy ebost (castellj@caerdydd.ac.uk, waddingtonk@caerdydd.ac.uk, willism8@caerdydd.ac.uk). I gael y wybodaeth ddiweddaraf ar Gwyddorau-Dyniaethau Caerdydd, ewch i’r blog neu dilynwch ni ar Twitter.