Arwain ymdrechion i chwilio am rywogaethau’r ffliw eleni
6 Rhagfyr 2018
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd ac Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru yn arwain y byd o ran adnabod rhywogaethau'r ffliw a fydd ar led yn y DU ac Ewrop y gaeaf hwn.
Gyda datblygiad meddalwedd newydd sy’n archwilio samplau a gymerir o gleifion mewn ysbytai a meddygfeydd ledled Cymru, mae’r tîm yn gallu adnabod rhywogaethau’r ffliw yn gyflym. Mae hyn yn rhoi Cymru ar flaen y gad o ran mapio'r ffliw ar draws y byd.
Mae’r feddalwedd ddadansoddi yn defnyddio dulliau blaengar o ddilyniannu genomau ac mae hyn yn gadael i’r tîm ganfod rhywogaethau’r ffliw ymhen 24 awr. Mae hyn yn golygu bod y Rhyl, Castell-nedd, Penarth ac Abertawe ochr yn ochr â Hong Kong a New Mexico fel lleoliadau sy’n rhoi’r data diweddaraf i wyddonwyr sy’n olrhain sut mae’r ffliw yn lledaenu ac yn esblygu ar draws y byd.
Mae’r ymchwil o Brifysgol Caerdydd, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Phartneriaeth Genomeg Cymru, gyda chefnogaeth gan y Cyngor Ymchwil Feddygol a’r BBSRC, wrth wraidd gwasanaeth goruchwylio’r ffliw o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Ar ôl cael ei gasglu, rhennir y data ar unwaith â sefydliadau gan gynnwys Sefydliad Iechyd y Byd, y Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Rheoli Clefydau a grwpiau ymchwil rhyngwladol.
Mae rhannu data’n gyflym yn arbennig o ddefnyddiol i sefydliadau fel Sefydliad Iechyd y Byd, sy’n ceisio olrhain a rhagweld rhywogaethau ffliw sydd ar led. Mae’r wybodaeth hon yn hanfodol er mwyn datblygu’r brechlyn ar gyfer tymor y ffliw y flwyddyn nesaf.
Yn ôl Dr Mason o Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd: “Yn ystod y tymor ffliw presennol, Cymru sydd wedi arunigo, dilyniannu a chyflwyno’r mwyafrif helaeth o rywogaethau ffliw yn Ewrop a gafwyd drwy weithgareddau goruchwylio rhyngwladol.
“H1N1 - un o bedair rhywogaeth ffliw sydd ar led - sydd wrth wraidd y rhan fwyaf o achosion. Mae’r wybodaeth yr ydym yn ei chynhyrchu yn allweddol ar gyfer rhagweld sut gallai’r ffliw esblygu drwy gydol y tymor hwn, yn lleol ac yn fyd-eang.
“Fe ddaw’r broses o rannu data’n gyflym â manteision gweladwy yn ei sgîl yn syth. Ar ben hynny, ein data yw’r brif wybodaeth fydd yn llywio’r gwaith o ddatblygu’r brechlyn ar gyfer y ffliw y tymor nesaf.
“Mae cydweithwyr o Sefydliad Iechyd y Byd, yn ogystal â gwledydd fel yr UD, y Swistir a’r Almaen, wedi sylwi ar y cyflymder ein bod yn cynhyrchu data . Mae wedi bod yn anhygoel gweld ein gwaith yn cael effaith yng Nghymru ac y tu hwnt iddi hefyd."