Kenneth Hamilton yn Cynnal Dosbarth Meistr yn Academi Liszt yn Hwngari
6 Rhagfyr 2018
Bydd yr Athro Kenneth Hamilton, Pennaeth yr Ysgol Cerddoriaeth, yn athro gwadd yn Academi Cerddoriaeth Franz Liszt yn Bwdapest y mis hwn.
Tra ei fod yno, bydd yn cynnig dosbarthiadau meistr dwys i fyfyrwyr ac athrawon cerddoleg a phiano. Bydd y rhain yn ystyried sut dechreuodd a datblygodd yr ymarfer o ganu’r piano o 1830 tan 1945, gyda chanolbwynt penodol ar ddehongli cerddoriaeth gan Chopin a Liszt.
Mae’r Athro Hamilton yn bianydd cyngerdd poblogaidd ac yn gerddolegydd. Mae wedi ysgrifennu ysgrifau ar Franz Liszt ac oes aur cerddoriaeth piano Rhamantaidd, ac wedi recordio sawl albwm gan gynnwys Preludes to Chopin a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Mae argraffiad Hwngaraidd o’i lyfr arobryn, After the Golden Age: Romantic Pianism and Modern Performance, yn cael ei gyhoeddi’r mis hwn gan Rózsavölgyi. Caiff y llyfr ei lansio yn Bwdapest ar 18 Rhagfyr.