Technoleg ddigidol i reoli clefyd Huntington
6 Rhagfyr 2018
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn ystyried sut gellir defnyddio technolegau digidol, fel teclynnau olrhain ffitrwydd gwisgadwy, er mwyn helpu pobl sydd â chlefyd Huntington (HD) i reoli eu symptomau.
Yn rhan o fenter gydweithredol gwerth £16 miliwn i wella gofal iechyd a chymdeithasol pobl gyda chlefydau’r ymennydd, bydd yr Athro Monica Busse, o Ganolfan Treialon Ymchwil Prifysgol Caerdydd, yn arwain tîm rhyngwladol fydd yn asesu sut mae cwsg, maeth a gweithgarwch corfforol yn effeithio ar glefyd Huntington.
Dywedodd yr Athro Busse: "Rydym eisoes wedi dangos bod ymarfer corff rheolaidd yn bwysig ar gyfer rheoli symptomau clefyd Huntington. Rydym bellach eisiau dysgu mwy am agweddau amgylcheddol ar fywyd, yn ogystal â ffactorau genynnol hysbys, a defnyddio’r wybodaeth hon i ddatblygu ymyriadau i wella bywydau dioddefwyr.”
Mae clefyd Huntington (HD) yn gyflwr niwrolegol etifeddol sy'n achosi anawsterau o ran symud a chydsymyd. Mae hefyd yn achosi namau gwybyddol sy'n gwaethygu dros amser. Fel arfer, mae symptomau’n datblygu pan mae dioddefwyr rhwng 30 a 50 oed, a gall dementia ddatblygu ar unrhyw gam o’r cyflwr. Ar hyn o bryd nid oes triniaethau ar gyfer y cyflwr.
Mae’r Rhaglen Gydweithredol - Clefydau Niwro-ddirywiol (JPND) yn ariannu’r ymchwil newydd. Dyma’r fenter fwyaf ar lefel fyd-eang sy’n bwriadu mynd i’r afael â chlefydau niwro-ddirywiol. Cymdeithas Alzheimer arweiniodd y cyllido ar gyfer y fenter yn y DU.
Mae'r ymchwil bresennol yn awgrymu bod llawer o le i wella safon byw’r rhai sy’n byw gyda chlefydau niwro-ddirywiol, fel clefyd Huntington. Gellid gwneud hyn gyda chysyniadau newydd ar gyfer gofal iechyd a gofal cymdeithasol yn ogystal ag arloesiadau sy’n canolbwyntio ar hyrwyddo urddas, annibyniaeth a chynhwysiant cymdeithasol. Fodd bynnag, mae argaeledd ac ansawdd gwasanaethau o'r fath yn amrywio'n sylweddol ar draws Ewrop a thu hwnt.
"Tra ein bod yn aros i driniaethau newydd ddod i’r fei o ymchwil sylfaenol a throsiannol, mae angen i ni gefnogi prosiectau all gyflwyno datblygiadau effeithiol yn syth. Gall ymchwil ac arloesedd ym maes gofal iechyd a gofal cymdeithasol wneud hyn. Mae hyn yn cynnwys datblygiadau sy’n awgrymu bod llawer o le i rymuso cleifion, ehangu eu cyfranogiad dinesig a gwella safon eu bywydau,” meddai’r Athro Philippe Amouyel, Cadeirydd JPND. "Ein gobaith yw y bydd y gwaith hwn yn arwain at fabwysiadu strategaethau hybu iechyd newydd a fydd yn lleihau effaith y clefyd ar gleifion yn ogystal â'r effaith ar eu teuluoedd a'u gofalwyr."
Ychwanegodd yr Athro Busse: "Mae prosiect DOMINO HD yn ymuno â’n portffolio cynyddol o ymchwil ym maes clefyd Huntington, gan weithio’n agos gyda chleifion ac aelodau’r cyhoedd. Dyma gam pwysig allai gyfrannu’n sylweddol at ein gwybodaeth a sut rydym yn trin clefyd Huntington, yn ogystal â mathau o ddementia a ddiffinnir yn glir.
Bydd y tîm yng Nghymru yn arwain consortiwm ledled Ewrop sy'n cynnwys Iwerddon, Sbaen, Gwlad Pwyl, yr Almaen a'r Swistir.