Llwyddiant Caerdydd mewn cystadleuaeth ym maes masnach ryngwladol
5 Rhagfyr 2018
Mae myfyrwyr o Ysgol Busnes Caerdydd wedi ennill cystadleuaeth yn erbyn timau o brifysgolion a cholegau eraill y wlad mewn menter o’r enw 2018 National Trade Academy Programme’s ‘Trade Export Challenge’.
Cyflwynodd myfyrwyr eu strategaethau allforio gerbron nifer o arbenigwyr yn sgîl cefnogaeth gan Ysgrifennydd Masnach Ryngwladol San Steffan a Llywydd Bwrdd y Fasnach, y Dr Liam Fox AS, a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, Alun Cairns AS, yn ystod ymweliad â Champws y Bae Prifysgol Abertawe.
Y Ddraig Goch a Gynnar
Daeth saith tîm i gystadlu - myfyrwyr o Ysgol Busnes Caerdydd, Ysgol Rheoli Prifysgol Abertawe, Ysgol Rheoli Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, Ysgol Rheoli a Busnes Prifysgol Aberystwyth a Choleg Castell-nedd Port Talbot.
Roedd dau dîm yn cynrychioli Ysgol Busnes Caerdydd, y Ddraig Goch a Gynnar, myfyrwyr sy’n cymryd rhan yn rhaglenni’r ysgol ar gyfer israddedigion, ôl-raddedigion ac MBA.
Meddai Martin Stefka, un o fyfyrwyr rheoli busnes rhyngwladol yr ysgol, sydd yn ei drydedd flwyddyn bellach: “Roedd rhaglen yr academi yn brofiad gwych a roes gyfle inni ddysgu llawer am bethau ymarferol allforio. Ar ben hynny, llwyddon ni i ennill y wobr.”
Gofynnwyd i bob tîm ysgwyddo rôl uwch reolwyr cwmni cynnyrch llaeth mawr yng Nghymru i ystyried sut y gallai’r cwmni werthu ei gynnyrch yn rhyngwladol.
Meddai Frederik Ejlerson, myfyriwr blwyddyn olaf cwrs BSc Rheoli Busnes yn yr ysgol: “Mae’r profiad yma wedi ehangu fy amgyffred o rwydwaith y fasnach ryngwladol a’r ffaith bod rhaid cyflawni gorchwylion cymhleth yn gywir ac yn effeithlon er mwyn i ryngweithio economaidd ddigwydd.”
Yn rhan o'r gystadleuaeth, roedd disgwyl i bob tîm wneud y canlynol:
- llunio cynnyrch iogwrt a fyddai’n addas i’w allforio;
- llunio strategaeth allforio’r iogwrt;
- cyflwyno’r canfyddiadau gerbron arbenigwyr.
Meddai’r Dr Jane Lynch, Cyfarwyddwr Profiad Myfyrwyr Ysgol Busnes Caerdydd: “Roedd yn bwysig i’n myfyrwyr gymryd rhan mewn digwyddiad o’r fath i ategu eu hastudiaethau...”
Ar ôl cyfres o gyflwyniadau gan arbenigwyr yn y diwydiant, roedd tair awr i’r myfyrwyr gwblhau eu cynlluniau busnes cyn rhoi eu cyflwyniadau.
Meddai Mona Aranea, cydymaith ymchwil yn Ysgol Busnes Caerdydd: “Derbyniodd ein myfyrwyr yr her hon yn frwd iawn gan amlygu tipyn o ymroddiad - maen nhw’n llawn haeddu ennill y gystadleuaeth...”
Y to nesaf
Meddai Cong Niu, sy’n astudio MBA Caerdydd: “Roedd y rhaglen hon yn brofiad ardderchog. Rwy’n fwy ymwybodol o bwysigrwydd gwaith tîm bellach, yn enwedig y gallu i sefydlu timau a chyflawni gorchwylion yn gyflym gyda phobl nad ydw i wedi cwrdd â nhw erioed.
“Mae’r gystadleuaeth wedi fy helpu i ddeall allforio yn well, hefyd. Ar y cyfan, rwy'n credu y bydd hyn o fudd imi yn ystod cwrs MBA a'm gyrfa wedyn.”
Ychwanegodd Alice Horn, sydd ym mlwyddyn olaf cwrs BSc Rheoli Busnes yn yr ysgol: “Mae’r profiad unigryw hwn wedi cryfhau cysylltiadau â ffrindiau a’m helpu i ddysgu llawer am wahanol ddiwylliannau.”
Roedd Liam Fox, Llywydd Adran Masnach Ryngwladol San Steffan, ac Alun Cairns, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, yn bresennol i gynnig adborth i’r myfyrwyr am eu cynlluniau busnes cyn iddyn nhw roi eu cyflwyniadau terfynol gerbron y beirniaid (tri arbenigwr).
Meddai’r Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, Alun Cairns: “Roedd yn dda gyda fi weld y to nesaf o hoelion wyth a llunwyr polisïau masnachol byd-eang mor frwd wrth eu gwaith yn rhan o’r rhaglen wladol heddiw...”
Sbarduno twf a ffyniant
Roedd yr achlysur yn rhan o gyfarfod ehangach Bwrdd y Fasnach a gwrddodd yng Nghymru am y tro cyntaf i gyflwyno rhai o brosiectau ynni ac isadeiledd y wlad, gwerth £240 miliwn, i fuddsoddwyr byd-eang.
Daw Bwrdd y Fasnach â rhai o brif arweinyddion y byd masnachol o bob cwr o’r deyrnas at ei gilydd i hyrwyddo allforion a chyfleoedd i fuddsoddi er twf a ffyniant y deyrnas gyfan.