Ariannu astudiaethau ôl-raddedig
3 Rhagfyr 2018
Mae Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, yn falch o allu cynnig Ysgoloriaeth MA ar gyfer Mynediad 2019.
Bydd yr Ysgoloriaeth yn talu ffioedd llawn i fyfyriwr Cartref llawn-amser (12 mis), neu’n rhannol ar gyfer ffioedd myfyriwr Rhyngwladol, sydd yn ymuno a’r Ysgol ar gyfer y flwyddyn academaidd 2019-20.
Mae’r rhaglen MA mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd yn un eang a hyblyg sydd yn cael ei theilwra yn ôl diddordebau darpar fyfyrwyr ac arbenigedd ymchwil staff cyfredol. Mae’n bosib i’w hastudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, neu gyfuniad o’r ddau.
Cynigir cyfle i astudio rhychwant o bynciau yn ymwneud â’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd gan gynnwys Llenyddiaeth Cymru drwy'r oesoedd; beirniadaeth lenyddol; llenyddiaeth plant; sosioieithyddiaeth; a pholisïau a chynllunio ieithyddol.
Dywed Dr Siwan Rosser, cyfarwyddwr y rhaglen MA: “Rydym yn falch iawn o allu cynnig ysgoloriaeth MA unwaith eto eleni er mwyn denu’r gorau i Gaerdydd i astudio gyda ni.
“Mae’r rhaglen yn un heriol sydd yn cynnig cyfle arbennig i archwilio’r Gymraeg a’i diwylliant, craffu ar y newidiadau cyffrous i’r Gymraeg a datblygu’r sgiliau angenrheidiol i ddehongli a dadansoddi effaith y newidiadau hyn. Yn wir, mae’r rhaglen yn datblygu pobl sydd yn gallu creu newid a chyfrannu at ddyfodol diwylliannol, cymdeithasol a phroffesiynol Cymru.”
Mae myfyrwyr MA yr Ysgol yn derbyn cefnogaeth cyflogadwyedd sylweddol, gan gynnwys cyfnod o brofiad gwaith, er mwyn eu helpu i wireddu eu huchelgais proffesiynol a chysylltu eu diddordebau ymchwil â gofynion y gweithle modern.
Osian Morgan a enillodd Ysgoloriaeth MA Ysgol y Gymraeg yn 2018. Cychwynnodd ar ei astudiaethau ôl-raddedig yn yr Ysgol ym mis Medi 2018. Soniodd am bwysigrwydd yr ysgoloriaeth iddo ef: “Roedd derbyn ysgoloriaeth hael Ysgol y Gymraeg yn fraint enfawr. Roeddwn yn awyddus iawn i barhau gyda f'astudiaethau yn yr Ysgol, ond galluogodd yr ysgoloriaeth imi wneud hynny heb orfod poeni'n ormodol am y baich ariannol. Mae haelioni'r Ysgol wrth gynnig yr ysgoloriaeth hon yn ymgorfforiad o’i natur gefnogol a gofalgar sy'n treiddio i'r ffordd y mae'n trin a gofalu dros ei myfyrwyr o ddydd i ddydd.
“Hyd yn hyn mae'r radd wedi bod yn ddefnyddiol, cyffrous a hynod ddiddorol, gan roi'r cyfle imi ymchwilio'n ddyfnach i'r pynciau yr ymddiddorais ynddynt yn ystod fy ngradd israddedig. Heb os, mae natur amrywiol a hyblyg y radd yn ei wneud yn gwrs ôl-raddedig unigryw sy'n galluogi myfyrwyr i ddatblygu dealltwriaeth ddyfnach o amryw o bynciau sy'n ymwneud yn â'r Gymraeg, y Cymry, a'r Celtiaid. Heb os, mae'r radd werth ei dilyn, ac mae'r ysgoloriaeth werth ymgeisio amdani!”
Dyddiad cau'r ysgoloriaeth newydd yw 1 Mawrth 2019. Ymgeisiwch ar gyfer yr ysgoloriaeth ar-lein.
Am fanylion pellach cysylltwch â Dr Siwan Rosser - rossersm@caerdydd.ac.uk / +44 (0)29 2087 6287.