Cymrawd ar Ddechrau Gyrfa Leverhulme yn ymuno â'r Ysgol Cerddoriaeth
3 Rhagfyr 2018
Mae Dr Stephen Millar wedi ymuno â'r Ysgol Cerddoriaeth ar ôl cael Cymrodoriaeth Dechrau Gyrfa Leverhulme.
Mae Dr Millar yn ymuno â ni o Brifysgol Glasgow Caledonian, a bydd yn gweithio ar brosiect sy'n archwilio hanes caneuon teyrngarwyr yng Ngogledd Iwerddon a'u rôl wrth fynegi diwylliant a hunaniaeth ddosbarth-gweithiol Brotestannaidd. Mae'r prosiect yn archwilio rôl caneuon teyrngarwyr yn ystod y Gwrthdaro yng Ngogledd Iwerddon (1968-1998) a pham mae cerddorion a chynulleidfaoedd yn parhau i gynhyrchu a gwneud defnydd o ddeunydd o fath.
Bydd y prosiect yn archwilio'r cysylltiad rhwng caneuon teyrngarwyr a datblygiadau diwylliannol a gwleidyddol yng Ngogledd Iwerddon, a sut mae'r caneuon yn trafod y materion hyn. Mae caneuon y teyrngarwyr yn cynnig cyd-destun unigryw ar gyfer deall ynys ranedig a chyfandir mewn darnau yn dilyn Brexit.
Y prosiect 3 blynedd mewn hyd hwn yw'r cyntaf o'i fath, a bydd yn cynhyrchu'r archif ar-lein cyntaf o gerddoriaeth yng Ngogledd Iwerddon, o'r enw 'Caneuon y Gwrthdaro yng Ngogledd Iwerddon' ('Songs of the Northern Ireland Conflict' - SoNIC). Bydd archif SoNIC yn defnyddio dulliau arloesol i guradu caneuon gwleidyddol yn ystod ac ar ôl y trafferthion, a'u gosod mewn cyd-destun. Bydd hefyd yn dangos y modd y mae caneuon gwleidyddol yn parhau i lywio materion a hunaniaethau presennol.
Bydd Dr Millar yn gweithio ochr yn ochr â'r Athro John Morgan O'Connell, sydd wedi cynnal gwaith helaeth ar gerddoriaeth a gwrthdaro, gyda llawer ohono'n canolbwyntio ar Iwerddon. Mae ei waith presennol ar greu cerddoriaeth yn Iwerddon yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn cysylltu â gwaddol hanesyddol parafilwyr teyrngar wnaeth ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, ac sy'n parhau i gael eu crybwyll yng nghaneuon teyrngarwyr.
Bydd Dr Millar yn addysgu mewn modiwlau amrywiol o fewn yr Ysgol, gan gynnwys Disgyblu Cerddoriaeth, Gwneud Ethnogerddoleg, a Materion mewn Cerddoriaeth Boblogaidd.