Datrys yr her sy’n rhwystro'r gwaith o ddatblygu dosbarth pwysig o gyffuriau
28 Tachwedd 2018
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi datblygu dull newydd o weithredu a allai gael ei ddefnyddio i hwyluso'r gwaith o ddarganfod dosbarth o gyffuriau a allai drin canser, arthritis gwynegol a chlefyd llid y coluddyn.
Er mwyn i gelloedd weithredu’n arferol, mae angen i rai proteinau lynu at ei gilydd er mwyn creu cymhlygion protein sy’n chwarae rôl hanfodol o ran trosglwyddo negeseuon rhwng y cydrannau gwahanol sy’n ffurfio celloedd. Mewn achosion lle nad yw’r cymhlygion protein yma yn cael eu ffurfio o gwbl, neu’n ffurfio y tu hwnt i lefelau arferol, gall arwain at glefyd. Enghraifft o hyn yw protein o’r enw STAT3, sy’n cynorthwyo wrth greu proteinau eraill sy’n achosi amlder celloedd. Mae astudiaethau amrywiol wedi dangos bod STAT3 wedi’i or-actifadu mewn llawer o ganserau dynol megis canser y fron, y stumog, y coluddyn a’r prostad. Mae atal STAT3, felly, wedi’i gynnig fel strategaeth ymarferol i drin y clefydau difrifol hyn.
Mae datblygiad nifer o’r cyffuriau a allai dargedu glyniad STAT3 at broteinau eraill yn benodol, proses a elwir yn ddeumereiddio, wedi’i atal gan nad yw eu priodweddau yn ddigon tebyg i gyffuriau. I fynd i’r afael â hyn, defnyddiodd Ageo Miccoli, myfyriwr PhD o Brifysgol Caerdydd, ddull newydd i guddio grŵp “phosphotyrosine” y cyffuriau hyn er mwyn gwella eu priodweddau. Fe wnaeth Binar Dhiani, sydd hefyd yn fyfyriwr PhD, astudio effeithiolrwydd y moleciwlau cudd hyn i atal goroesiad celloedd canser. Dangosodd y data bod y moleciwlau â “phosphotyrosine” cudd yn fwy effeithiol wrth atal celloedd canser y fron na’r moleciwlau gyda “phosphotyrosine” heb ei guddio.
Dywedodd Dr. Mehellou, y prif ymchwilydd: “Bydd yr astudiaeth hon yn cael effaith fawr ar hwyluso darganfyddiad cyffuriau gwrthganser gyda grwpiau “phosphotyrosine”, sydd wedi bod yn dipyn o her hyd yn hyn”