Brwydr y botel? Caerdydd ar flaen y gad!
28 Tachwedd 2018
Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymuno ag ymgyrch arobryn i atal llygredd plastig drwy ei gwneud yn hawdd, yn gyfleus ac yn rhad ac am ddim i bobl ail-lenwi poteli dŵr mewn gwahanol leoliadau yng Nghaerdydd.
Mae’r Brifysgol, sy’n eiriolwr lleol ar gyfer Ail-lenwi Caerdydd, yn helpu’r sefydliad dielw City to Sea i gyflwyno Mannau Ail-lenwi ar draws y ddinas, drwy annog busnesau lleol i gofrestru â’r ap Ail-lenwi rhad ac am ddim.
Mae tua 80 o Fannau Ail-lenwi yng Nghaerdydd hyd yn hyn, ond mae’r nifer yn cynyddu’n gyflym. Mae'r busnesau sydd wedi ymuno â’r cynllun hyd yma yn cynnwys caffis, bariau, bwytai, siopau, llyfrgelloedd a theatr. Ar ôl cofrestru, caiff pob sefydliad sticer i’w roi ar eu ffenestr i hysbysu pawb sy’n mynd heibio bod croeso iddynt lenwi potel am ddim.
Mae’r oedolyn cyffredin yn prynu mwy na thair potel ddŵr blastig bob wythnos ar gyfartaledd. Yn syfrdanol, mae hyn yn cyfateb i 175 o boteli bob blwyddyn i bob unigolyn. Ar y cyfan, prynir tua 7.7 biliwn o boteli plastig yn y DU bob blwyddyn, ac mae hyn yn arwain at dunelli o wastraff plastig untro yn dod i ben eu taith yn ein cefnforoedd.
Dywedodd Dr Isabelle Durance, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd: "Rydym yn gyffrous iawn i hyrwyddo’r symudiad Ail-lenwi yng Nghaerdydd. Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i ddefnyddio llai o ynni, dŵr a phlastig. Mae cynlluniau syml ond effeithiol fel Ail-lenwi yn ffordd wych o gyflawni’r nod hwn, ond mae codi ein hymwybyddiaeth o sut i reoli ein cyfoeth naturiol yn well yr un mor bwysig.
“Yn ogystal â hyrwyddo’r ymgyrch, rydym yn cynnig mannau ail-lenwi dŵr mewn sawl adeilad ar ein campysau. Bydd hyn yn galluogi staff, myfyrwyr a’r gymuned gyfan i ofalu am ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
ywedodd Rod Thomas o Viva Organic - un o’r busnesau yng Nghaerdydd sydd wedi ymuno ag ymgyrch Ail-lenwi: "Mae Ail-lenwi Caerdydd yn rhoi cyfle i bob un ohonom roi’r gorau i greu’r math yma o sbwriel diangen unwaith ac am byth. Drwy gynnig mannau ail-lenwi dŵr yn rhad ac am ddim, rydym yn gobeithio y gallwn helpu i godi ymwybyddiaeth o’r plastig yr ydym yn ei ddefnyddio ac yn ei daflu yn ein bywydau bob dydd. Mae llai o ffynhonnau dŵr cyhoeddus ar gael, felly rydym yn falch o allu cynnig adnodd naturiol i’r gymuned leol yn rhad ac am ddim.
"Mae hefyd yn gwneud perffaith synnwyr yn economaidd gan ein bod yn denu nifer uwch o gwsmeriaid o’r un meddylfryd ac sy’n ymwybodol o'r amgylchedd i’n siop, yn ogystal ag eraill sy’n mynd heibio na fyddent wedi dod i’r siop fel arall."
Meddai [busnes lleol sy’n cymryd rhan], “Mae Ail-lenwi Caerdydd yn rhoi’r cyfle i ni helpu i daflu’r math hwn o sbwriel i’r gorffennol ac arbed arian ar yr un pryd. Mae’n synnwyr busnes da hefyd achos bod cwsmeriaid yn gweld busnesau sy’n ail-lenwi poteli am ddim yn well, ac maent yn fwy tebygol o ddychwelyd a phrynu nwyddau yn y dyfodol.”
Mae City to Sea yn sefydliad dielw a arweinir gan yr entrepreneur Natalie Fee. Lansiodd cynllun Ail-lenwi yn 2015 ac mae ganddo rwydwaith o dros 15,000 o Fannau Ail-lenwi bellach.
Mae’r cynllun yn cael ei gyflwyno ar draws Cymru gyda chefnogaeth lawn Llywodraeth Cymru a chwmnïau Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy.
Meddai Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd: “Bydd mwy o fannau ail-lenwi dŵr yn ein pentrefi, ein trefi a’n dinasoedd yn helpu i leihau faint o blastig untro yr ydym yn ei ddefnyddio. Dyma gam arall tuag at fy mreuddwyd mai Cymru fydd ‘Cenedl Ail-lenwi’ gyntaf y Byd.”
Cewch wybod rhagor am Ail-lenwi a’r ap ail-lenwi yn https://refill.org.uk/
Mae’r busnesau sydd wedi cofrestru yng Nghaerdydd yn cynnwys: Theatr Sherman; Lush; Big Moose Coffee Co; Starbucks; The Little Man Garage; Hyb Grangetown; KIN + ILK Pontcanna; Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru; Viva Organic; Pipes Beer Brewery; The Ivor Davies; Morrisons Caerdydd; Peter Alan Estate Agents; Archers Arena; The Mount Stuart; Prifysgol Metropolitan Caerdydd; Hyb Ystum Taf a Gabalfa; Hyb Partneriaeth Tredelerch; Llyfrgell Rhydypennau; Canolfan Gymunedol Maes y Coed; Costa Coffees; The Cosy Club; Bill’s Restaurants; John Lewis and Partners; The Great Western; Café by Benugo; Llyfrgell Ganolog Caerdydd; Hyb; Undeb Myfyrwyr Caerdydd; Brewdog Caerdydd; 200 Degrees Coffee; The Central Bar; The Ernest Willows; Hostel YHA; Premier Inn Hotels; Brewers Fayre; The Little Mann Coffee Co; The Gatekeeper; The Prince of Wales.