Dyfodol disglair
23 Tachwedd 2018
Mae ymchwil gan ddau o’n myfyrwyr PhD wedi arwain at gais patentadwy posibl.
Mae myfyrwyr PhD yr Ysgol Cemeg, Karma Albalawi o Brifysgol Tabuk, ac Eman Alwattar o Brifysgol Meddygol Al-Iraqia, yn gweithio ar ymchwil i lifynnau sy’n pylu yn ffotogemegol gan ddefnyddio un o’r deuodau allyrru golau (LEDs) gwyn mwyaf llachar a ddefnyddir ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae’r gwaith ymchwil, o dan oruchwyliaeth Dr Buurma, wedi arwain at greu dyfais sydd â'r potensial o gael effaith hynod ddiddorol ar waith fforensig.
Gweinyddiaeth Addysg Uwch Saudi Arabia sy’n noddi Karma, a chaiff Eman ei noddi gan Weinyddiaeth Addysg Uwch ac Ymchwil Gwyddonol Irac.
Mae’r grŵp bellach yn archwilio’r effaith ar waith fforensig, gan edrych ar y prosesau sylfaenol a’r cymwysiadau posibl ill dau, gyda’r gobaith o ddatblygu cymhwysiad patentadwy.
Mae datblygiad y cymhwysiad hwn ym maes gwaith fforensig yn seiliedig ar ymchwil sylfaenol ynghylch pyliad ffotogemegol y lliwiau organig sydd o ddiddordeb. Mae datblygiad pellach y ddyfais, felly, yn ymwneud ag astudiaethau mecanistig sy’n defnyddio cyfuniad o gemeg bioffisegol, cemeg organig ffisegol a ffotogemeg, yn ogystal â datblygiad offeryniaeth wyddonol newydd.
O ran datblygiad yr offeryniaeth wyddonol, mae’r grŵp yn cydweithio â Dr Beames, sydd yn arbenigwr blaenllaw yn natblygiad a defnydd sbectromedrau sensitif.