Y Cyngor Ymchwil Feddygol yn ariannu ymchwil glioblastoma
21 Tachwedd 2018
Bydd gwyddonwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn gallu cael cipolwg ar ganser ymennydd ymosodol, diolch i fuddsoddiad mawr gan y Cyngor Ymchwil Feddygol.
Mae Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd, Prifysgol Caerdydd, wedi cael grant o dros £600,000 i ariannu ymchwil i'r math mwyaf cyffredin o ganser yr ymennydd mewn oedolion.
Ar hyn o bryd does dim modd gwella Glioblastoma, ac mae'r Sefydliad yn gobeithio datgelu gwybodaeth hanfodol am y canser i geisio datblygu triniaethau mwy effeithiol.
Yn ôl Dr Florian Siebzehnrubl, Prifysgol Caerdydd: "Drwy ddeall y mecanwaith sy'n sail i glioblastoma, gallwn ddylunio gwell therapïau sy'n eu targedu nhw’n benodol."
Bydd y grant o £626,000 yn ariannu gwaith a fydd yn ymchwilio i protein FGF2 a'i rôl yn glioblastoma.
Mae gwyddonwyr yn y Sefydliad Ymchwil Bôn-gelloedd Canser Ewropeaidd eisiau deall pam mae FGF2 yn peri i gelloedd canserau'r ymennydd fod yn fwy ymosodol.
"Bydd ein prosiect yn ymchwilio i sut mae FGF2 yn dylanwadu ar wahanol fathau o gelloedd glioblastoma mewn tiwmor.
"Rydym yn ymchwilio i'r ffordd y mae FGF2 yn effeithio ar y gwahanol fathau o gelloedd glioblastoma mewn gwahanol ffyrdd, gyda rhai'n dod yn fwy ymosodol mewn ymateb uniongyrchol i FGF2.
"Credwn fod FGF2 yn glynu wrth wahanol fathau o dderbynyddion ar wahanol fathau o gelloedd.
"Rydym am wahaniaethu'r gwahanol fathau o gelloedd canser yn seiliedig ar eu derbynyddion penodol. Yna, rydym am weld pa dderbynyddion sydd â'r ymateb mwyaf difrifol i FGF2, a ble mae'r celloedd hyn yn y tiwmor.
"Drwy ddeall swyddogaeth FGF2, gallwn gael gwell dealltwriaeth o natur ymosodol glioblastoma a defnyddio hyn i helpu gyda datblygu triniaethau newydd.
"Bydd hyn yn ein helpu i ddefnyddio cyffuriau sy’n targedu’r derbynyddion penodol hyn, a bydd yn darparu modd o ragweld pa gleifion fyddai'n elwa fwyaf o'r therapi hwn,” ychwanegodd Florian.