Hologramau cerddoriaeth bop: dadleuol neu drawsnewidiol?
10 Medi 2015
Arbenigwyr cerddoriaeth yng Nghaerdydd ar gyfer cynhadledd ryngwladol am ddyfodol y diwydiant pop
Bydd goblygiadau moesegol 'atgyfodi' cerddorion marw ar ffurf hologramau
ymhlith y pynciau trafod heddiw (10 Medi) yn ystod cynhadledd ryngwladol am
ddyfodol cerddoriaeth bop gael ei chynnal ym Mhrifysgol Caerdydd.
Bydd cynhadledd Dyfodol Cerddoriaeth
Boblogaidd y Gymdeithas Ryngwladol ar gyfer Astudio Cerddoriaeth Boblogaidd
(IASPM) yn trin a thrafod materion gan gynnwys y defnydd cynyddol o hologramau
mewn perfformiadau cerddoriaeth bop sy'n galluogi perfformwyr sydd wedi marw
neu absennol i 'berfformio' ger bron cefnogwyr mewn sefyllfaoedd byw.
Mae hologramau wedi'u creu'n ddiweddar o sêr sydd ymhlith y rhai sydd wedi ennill mwyaf o arian ar ôl marw, gan gynnwys Elvis, Tupac a Michael Jackson. Fodd bynnag, bydd y gynhadledd yn ystyried y cyfyngderau a'r goblygiadau moesegol sy'n codi yn sgîl eu defnyddio.
Ysgol Cerddoriaeth y Brifysgol sy'n cynnal y gynhadledd ddeu-ddydd hon a bydd yn cynnwys dros dri deg o gyflwyniadau gan ymchwilwyr o brifysgolion mor bell i ffwrdd â Munich a Helsinki. Bydd 'Oedran ac Awtogywair', 'YouTube a Dyfodol y Diwydiant Recordiau' a 'Dyfodol Cyfansoddi Caneuon Pop' ymhlith y pynciau trafod.
Bydd cerddorion ymhlith y cyflwynwyr gan gynnwys Damon Minchella, cyn-gitarydd bas Ocean Colour Scene, a Chanan Hanspal, gitarydd sydd wedi perfformio gyda Kylie Minogue a Jamiroquai ymhlith eraill.
Bydd Samuel Murray, ymchwilydd ôl-raddedig o Brifysgol Caerdydd, yn cyflwyno sesiwn hefyd am lunio polisïau ym maes cerddoriaeth. Bydd cyflwyniad Samuel, o dan y teitl Bills, Bills, Bills, yn trafod y cyd-destun Americanaidd - gan gynnwys cynlluniau fel treth $35 Portland i ariannu rhaglenni celfyddydol mewn ysgolion - ac yn ystyried a allai polisïau tebyg weithio mewn fframwaith gan Lywodraeth y DU.
Cynhelir
sesiwn drafod ynglŷn â dyfodol cerddoriaeth boblogaidd hefyd. O dan
gadeiryddiaeth Dr Joe O'Connell o Brifysgol Caerdydd, bydd yn dod â cherddorion
o Gymru ynghyd yn ogystal â Dirprwy Arweinydd y Blaid Werdd, Amelia Womack ac
Eluned Parrott AC.
Dywedodd Alicia Stark, ymchwilydd
ôl-raddedig o Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd fydd yn cyflwyno ei phapur
am hologramau mewn perfformiadau poblogaidd: "Bydd y digwyddiad hwn yn
ystyried dyfodol cerddoriaeth boblogaidd mewn modd gwirioneddol gyfannol. Bydd
yn edrych ar faterion fel ffenomen yr hologramau a sut maent wedi cynyddu mewn
poblogrwydd yn gyflym. Dim ond un pwnc yw hwn sy'n wynebu cerddoriaeth
boblogaidd sy'n codi cwestiynau ynglŷn ag awdurdod, perchnogaeth ac awduraeth
mewn perthynas â phersonâu, atgofion ac ystadau cerddorion blaenllaw a
dylanwadol.
"Beth yw'r cyfyngderau a'r
cyfrifoldebau moesegol sy'n gysylltiedig ag ail-greu delwedd a pherfformiadau
enwogion sydd wedi marw, pwy ddylai wneud allu gwneud penderfyniadau o'r fath a
phwy ddylai gael yr elw?"
Ychwanegodd Sam Murray, cynrychiolydd ôl-raddedig ar gyfer IASPM ac ymchwilydd
yn Ysgol Cerddoriaeth y Brifysgol: "Ers dechrau'r ganrif hon, mae
technoleg wedi bod yn datblygu'n gyflym dros ben. Mae cerddoriaeth nawr yn ddigidol,
mae offerynnau a synnau newydd yn cael eu datblygu, ac mae cyngherddau nawr
ymhell y tu hwnt i sioe arferol gyda bandiau llewys yn goleu ar yr un pryd a
hologramau ymhlith yr hyn a gynigir.
"Mae IASPM wedi herio ei haelodau ôl-raddedig, sef dyfodol astudiaethau cerddoriaeth boblogaidd fel disgyblaeth academaidd, i edrych i'r dyfodol a darogan beth fydd yn digwydd nesaf. Dyma un o'r cynadleddau cyntaf fydd yn proffwydo dyfodol cerddoriaeth boblogaidd. Gyda posibiliadau diddiwedd o ran technoleg a chreadigrwydd pobl, hwyrach y cawn hyd i syniadau'r dyfodol heddiw."