Ewch i’r prif gynnwys

Dulliau newydd o drin anhwylderau seiciatrig

19 Tachwedd 2018

Scientist looking through microscope

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ffurfio partneriaeth newydd gyda Takeda Pharmaceutical Company Limited ("Takeda") er mwyn cydweithio i ganfod cyffuriau i nodi dulliau newydd ar gyfer trin sgitsoffrenia a chyflyrau seiciatrig eraill.

Bydd y bartneriaeth yn cyfuno data genomeg y Brifysgol ar raddfa fawr ac arbenigedd o'r radd flaenaf mewn geneteg seiciatrig, genomeg, niwrowyddoniaeth clinigol a sylfaenol gyda galluoedd canfod cyffuriau a datblygu clinigol helaeth Takeda.

"Mae datblygiadau diweddar ym maes geneteg seiciatrig a genomeg, ar y cyd â chynnydd mewn niwrowyddoniaeth, yn golygu bod cyfle gwirioneddol bellach o oresgyn y rhwystrau sydd wedi atal cynnydd wrth ddatblygu cyffuriau newydd ar gyfer anhwylderau seiciatrig", meddai'r Athro Lawrence Wilkinson, Cyfarwyddwr Gwyddonol Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl (NMHRI), fydd yn arwain y bartneriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

"Bydd arbenigedd Takeda mewn canfod cyffuriau'n llwyddiannus yn galluogi ein huchelgais o ddefnyddio ein hymchwil i helpu i ddod o hyd i driniaethau ar gyfer anhwylderau cyffredin yr ymennydd, gyda lefelau uchel o anghenion nad ydynt wedi'u bodloni."

Yn ôl yr Athro Jeremy Hall, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl: "Rydym wedi ymrwymo i drosi ein hymchwil sylfaenol a chlinigol yn driniaethau mwy diogel ac effeithiol i gleifion."

Bydd y bartneriaeth yn galluogi Takeda i gael gafael ar ymchwil seiciatreg fiolegol o'r radd flaenaf, a'r isadeiledd cysylltiedig ar draws y Brifysgol, gan gynnwys Canolfan Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg Niwroseiciatrig a Genomeg, NMHRI, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl a'r Uned Atgyweirio’r Ymennydd a Niwrotherapiwteg Mewngreuanol.

"Drwy gydweithio ag arbenigwyr o'r radd flaenaf ac arbenigwyr niwroseiciatrig ym Mhrifysgol Caerdydd, rydym wedi creu cyfle unigryw i greu ystod newydd o feddyginiaethau ar y cyd, sydd â'u gwreiddiau yn nealltwriaeth genomeg yr afiechyd ar gyfer cleifion sy'n dioddef o sgitsoffrenia ac anhwylderau seiciatrig cysylltiol" meddai Ceri Davies, Pennaeth yr Uned Canfod Cyffuriau Niwrowyddoniaeth yn Takeda.  "Defnyddir carfannau genetig i gynnal dadansoddiadau wedi'u llywio ar sail biowybodaeth i nodi camau nodol allweddol ar gyfer ymyrryd, fydd yn cael eu dilysu drwy gyfrwng astudiaethau swyddogaethol mewn samplau gan gleifion, a'u datblygu'n rhaglenni canfod cyffuriau gyda'r potensial o greu therapïau trawsnewidiol."  

Mae anhwylderau seiciatrig sylweddol, gan gynnwys iselder, sgitsoffrenia, awtistiaeth ac anhwylder deubegynol, at ei gilydd yn cynrychioli anghenion iechyd enfawr sydd heb eu bodloni. Mae’r rhain i’w cyfrif am hyd at 20% o'r holl flynyddoedd a gollir yn sgîl anabledd ar draws y byd, yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd.  

Yn ôl Syr Michael Owen, Cyfarwyddwr Canolfan y Cyngor Ymchwil Feddygol ar gyfer Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig: "Mae cynnydd therapiwtig ar gyfer y cyflyrau hyn wedi'i gyfyngu gan ddiffyg dealltwriaeth o'r hyn sy'n eu hachosi yn y lle cyntaf. Fodd bynnag, mae cynnydd enfawr ym maes geneteg yn y degawd ddiwethaf, llawer ohono o dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, wedi rhoi dealltwriaeth newydd a dibynadwy o’r hyn sy'n eu hachosi yn fiolegol. Gyda'n partner, Takeda, mae gennym gyfle digynsail i ddatblygu dulliau therapiwtig newydd ar gyfer anhwylderau niwroseiciatrig."

Rhannu’r stori hon

Taking part in our research is quick, painless and strictly confidential.