£17m yn hwb ar gyfer gwaith ymchwil gwyddonol
9 Medi 2015
Mewn cyhoeddiad, cadarnhawyd y bydd dros £17m ar gael i ddenu hyd at 90 o gymrodyr ymchwil newydd o bob cwr o Ewrop i ehangu'r gwaith ymchwil o'r radd flaenaf a gynhelir yng Nghymru
Yn ôl Gweinidog yr Economi a Gwyddoniaeth, Edwina Hart, mae Llywodraeth Cymru wedi achub y blaen ar ymgeiswyr ledled Ewrop i sicrhau £7m drwy gynllun COFUND Marie Skłodowska-Curie Actions, sy’n rhan o raglen Horizon 2020 yr UE.
Bydd Llywodraeth Cymru, mewn partneriaeth â phrifysgolion yng Nghymru, yn rhoi £10m fel arian cyfatebol.
Bydd y cymrodorion newydd yn gweithio gydag ymchwilwyr gorau Cymru ym mhrifysgolion Caerdydd, Abertawe, Aberystwyth a Bangor ac ym Mhrifysgol De Cymru.
Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: "Mae sicrhau'r arian drwy gynllun COFUND Marie Skłodowska-Curie Actions yn hwb pwysig arall ar gyfer ymchwil yng Nghymru a bydd yn cynnig cyfleoedd o bwys i ni.
"Mae'n gydnabyddiaeth bellach o'r gwaith ymchwil rhagorol a wneir gan academyddion y genedl.
"Bydd yn ein helpu i ddenu mwy o academyddion o'r radd flaenaf i Gymru yn ogystal â chryfhau ac annog mwy o gydweithio rhwng prifysgolion a diwydiant."
Mae'r prosiect hwn yn ategu llwyddiant rhaglen Sêr Cymru, sydd werth £50m. Drwy'r rhaglen hon, penodwyd gwyddonwyr rhyngwladol blaenllaw yn gadeiryddion ymchwil ym mhrifysgolion Cymru a chrewyd tri rhwydwaith ymchwil cenedlaethol newydd.
Ym mis Mai 2015, cyhoeddwyd bod yr Athro Diana Huffaker wedi'i phenodi'n rhan o Sêr Cymru i arwain labordy ymchwil newydd ym Mhrifysgol Caerdydd fydd yn troi'r ddinas yn ganolfan fyd-eang ar gyfer ymchwilio i led-ddargludyddion cyfansawdd.
Yr Athro Huffaker yw'r pedwerydd apwyntiad o dan y rhaglen a'r ail ym Mhrifysgol Caerdydd. Yr Athro Yves Barde, a benodwyd yn Gadeirydd Ymchwil mewn Niwrofioleg, oedd y cyntaf.
Mae’r cymrodoriaethau ymchwil newydd yn ceisio denu ymgeiswyr sydd â rhwng tair a phum mlynedd o brofiad ôl-ddoethurol ac sydd am weithio yng Nghymru.
Dywedodd Mrs Hart: “Gwyddoniaeth yw'r sylfaen ar gyfer arloesedd a datblygu technoleg; mae hyn yn gwbl hanfodol ar gyfer creu twf economaidd a swyddi o safon.
Dyna pam rydyn ni’n buddsoddi mewn ymchwil, i ychwanegu at y gwaith rhagorol sydd eisoes yn digwydd yng Nghymru.
Dywedodd Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, yr Athro Julie Williams: “Mae sicrhau'r arian yma gan COFUND er gwaethaf y cystadlu brwd amdano ledled Ewrop, yn bluen yn het y gwaith ymchwil gwyddonol a wneir yng Nghymru.
Dangosodd Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014 fod gwaith ymchwil o safon wirioneddol fyd-eang yn digwydd yng Nghymru – ond mae angen rhagor ohono i sicrhau mantais economaidd a chymdeithasol hirdymor.