Mae myfyrwyr yn ymweld â Ruskin Land ‘Studio in the Fields’ ac yn ymddangos ar ‘Countryfile’ y BBC
16 Tachwedd 2018
Mae myfyrwyr o Ysgol Pensaernïaeth Cymru wedi bod yn gweithio ar brosiect newydd arloesol sy’n dathlu etifeddiaeth John Ruskin yng Nghoedwig Wyre, Swydd Worcester.
Urdd Sant Siôr sy’n gofalu am ‘Ruskin Land’, ac mae o dan reolaeth Ymddiriedolaeth Tir Cymunedol Wyre. Cenhadaeth Urdd Ruskin oedd ‘cymryd darn bychan o dir hardd, heddychlon a ffrwythlon yn Lloegr’, er mwyn rhoi cyfleoedd i bobl oedd yn gweithio drin y tir ac ailgysylltu â byd natur. Nod prosiect Ruskin yng Wyre yw ail-ddehongli syniadau Ruskin mewn ffyrdd ystyrlon, creadigol a chynhyrchiol ar gyfer cenhedlaeth newydd.
Yn draddodiadol, mae coed derw wedi cael eu mewnforio i’r Deyrnas Unedig ar gyfer gwaith adeiladu, ond mae myfyrwyr ôl-raddedig o’r Ysgol wedi cydweithio’n agos â mentoriaid yn Ruskin Land i archwilio ffyrdd posibl o newid hynny. Mae’r myfyrwyr wedi bod yn defnyddio offer llaw ar goed derw gwyrdd, anaeddfed o Loegr er mwyn archwilio sut gallai’r deunydd hwnnw gael ei ddefnyddio mewn pensaernïaeth fodern.
Mae’r myfyrwyr wedi bod yn defnyddio’u cyfnod yn Ruskin Land i ddylunio ac adeiladu canolfan wybodaeth newydd o’r coed deri sy’n adnodd naturiol o’u cwmpas yn Lloegr. Y gobaith yw y bydd prosiectau fel hyn yn llywio gyrfaoedd myfyrwyr yn ddiweddarach ac yn golygu eu bod yn fwy tebygol o weithio gyda choed derw o Loegr, a hybu defnydd ohonynt.
Mae Ysgol Pensaernïaeth Cymru yn ymfalchïo yn safon profiad y myfyrwyr ac mae’r ffaith eu bod yn cynnig cyfle i’r myfyrwyr ymwneud â phrosiectau fel Ruskin yng Wyre.
Dywedodd un myfyriwr:
“I mi mae’r gweithdy yma’n fater o ddeall y deunydd a sut mae ei gymhwyso yn ein pensaernïaeth. Mae’n wych cael gweithio mewn cynefin naturiol... mae naratif braf iawn iddo."
Cafodd prosiect Ruskin sylw ar raglen Countryfile y BBC yn ddiweddar, lle cafodd myfyrwyr eu cyfweld gan John Craven ynghylch eu hymwneud â’r prosiect. Gallwch wylio’r rhaglen gyfan ar BBC iplayer.
I gael rhagor o wybodaeth am brosiect Ruskin in Wyre, ewch i’r wefan.