Gwydr a ffurfiwyd gan sêr sy’n ffrwydro
16 Tachwedd 2018
Mae'r ffenestri yn ein tai yn gadael i ni'n llythrennol fwrw golwg ar yr anrhefn yng ngorffennol ein bydysawd, wrth i ymchwil newydd ddatgelu bod silica – prif gydran gwydr – wedi ffurfio'n wreiddiol yng nghanol sêr sy’n ffrwydro.
Mewn astudiaeth newydd, a gyhoeddwyd yn y Monthly Notices of the Royal Astronomical Society, mae tîm rhyngwladol o wyddonwyr wedi canfod silica yng ngweddillion dau supernova pell, biliwn o flynyddoedd golau i ffwrdd o'r Ddaear.
Gan ddefnyddio Telesgop Gofod Spitzer NASA, roedd y tîm wedi gallu canfod 'ôl bys' unigryw silica mewn dau supernova, Cassiopeia A a G54.1+0.3, ar sail y donfedd benodol o olau a allyrrwyd ganddynt.
Mae supernova yn ddigwyddiad dramatig pan mae seren anferth, yn y pen draw, yn rhedeg allan o danwydd, gan beri iddi syrthio ar ei hun a dod â'i bywyd i ben â ffrwydrad dwys. O fewn y ffrwydradau hyn y caiff atomau unigol eu cyfuno er mwyn ffurfio nifer o'r elfennau 'trymion' cyffredin, fel sylffwr a chalsiwm.
Roedd Jeonghee Rho, seryddwr yn Sefydliad SETI yng Nghaliffornia a phrif awdur y papur, wedi gallu nodi gronynnau o silica yn y supernovae ar sail y rhagdybiaeth eu bod yn debycach i siâp peli rygbi yn hytrach na'r gred gyffredin eu bod yn gwbl gylchol.
"Mae'r model gronyn cylchol yn syml, ond gallwch weld wrth edrych ar greigiau ar y Ddaear nad ydynt yn gylchol y rhan fwyaf o'r amser," meddai Rho.
Roedd data a gymerwyd o Arsyllfa Gofod Herschel Asiantaeth Gofod Ewrop y gallu ategu'r canfyddiad hwn, a bwrw amcan ar faint o silica a gynhyrchwyd gan bob ffrwydrad.
Gwelwyd nifer fawr o lwch silica drwy'r bydysawd yn flaenorol, ond hyd yma nid yw gwyddonwyr wedi gallu pennu'r union leoliad lle caiff ei ffurfio.
At ei gilydd, mae silica'n ffurfio oddeutu 60 y cant o gramen y ddaear. Mae un math penodol o silica, sef cwarts, yn un o brif gydrannau tywod sy'n amlwg ar hyd arfordiroedd dwyrain a gorllewin UDA. Yn ogystal â ffenestri gwydr a gwydr ffibr, defnyddir silica hefyd ym maes diwydiant i wneud concrid.
Yn ôl prif awdur yr astudiaeth, yr Athro Haley Gomez, o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd: "Rydym wedi dangos am y tro cyntaf bod y silica a gynhyrchwyd gan y supernovae'n ddigon sylweddol i gyfrannu at y llwch ar draws y Bydysawd, gan gynnwys y llwch a ddaeth ynghyd, yn y pen draw, i ffurfio'r blaned sy'n gartref i ni.
"Bob tro y byddwn yn syllu drwy ffenestr, cerdded ar hyd y palmant neu'n camu ar draeth o dywod, byddwn yn rhyngweithio â deunydd a ffurfiwyd gan sêr wnaeth ffrwydro a llosgi miliynau o flynyddoedd yn ôl."