Treial clinigol ar gyfer triniaeth Caerdydd ar gyfer yr eryr
8 Medi 2015
Mae'r claf cyntaf erioed wedi cael ei gofrestru ar gyfer cam III hollbwysig y treial clinigol ar gyfer cyffur arloesol gan Brifysgol Caerdydd a allai roi gobaith i filiynau o bobl sy'n dioddef o'r eryr (shingles)
Mae cwmni ContraVir Pharmaceuticals Inc o UDA, wedi dechrau'r treial clinigol terfynol ar gyfer FV-100, asiant gwrthfirysol pwerus a ddatblygwyd yn rhannol gan Chris McGuigan, Athro Cemeg Meddyginiaethol yng Nghaerdydd. Dyma'r rhwystr olaf cyn i'r cyffur gael ei gymeradwyo i'w ddefnyddio.
Bob blwyddyn, mae'r eryr yn effeithio ar dros dair miliwn o bobl ym mhob cwr o'r byd. Yng nghanol y 90au, daeth ymchwilwyr o dan arweiniad yr Athro McGuigan o hyd i deulu newydd sbon o gyffuriau gwrthfirysol - yr analogau niwcliosid deugylchol (BCNAs: bicyclic nucleoside analogues). Drwy gydweithio ag ymchwilwyr yn Leuven, Gwlad Belg, canfu'r tîm bod BCNAs yn asiantau gweithredol yn erbyn Firws Varicella Zoster (VZV) - sy'n achosi brech yr ieir a'r eryr mewn pobl.
Yn ôl yr Athro Chris McGuigan: "Mae FV-100 wedi'i ddatblygu o ganlyniad i hyrwyddo arloesedd rhyngwladol yng Nghaerdydd. Buom yn gweithio gyda'r Athro Jan Balzarini o Sefydliad Riga Katholieke Universiteit Leuven, Gwlad Belg, i gynnal profion firoleg pan ddatblygwyd y cyffuriau gwrthfirysol newydd yn gyntaf. Cymerodd Caerdydd yr awenau i amlygu'r asiantau BCNA gwrth-VZV pwerus, trwyddedu'r patentau, a datblygu FV-100."
Cynhelir y treial clinigol diweddaraf ar draws 200 o ganolfannau yn yr Unol Daleithiau, gan ddadansoddi mwy nag 800 o gleifion dros gyfnod o saith diwrnod, a dilyn eu cynnydd dros bedwar mis ar ôl hyn.
Mae amcangyfrifon yn awgrymu bod dros dair miliwn o achosion o'r eryr yn yr Unol Daleithiau, Ewrop, a Japan bob blwyddyn, a hynny ymhlith y boblogaeth o oedolion sy'n heneiddio yn bennaf. Mae'r symptomau'n cynnwys briwiau lleol a phoen.
Ychwanegodd yr Athro McGuigan: "Mae FV-100 wedi dangos y gall leihau nifer yr achosion o boen sy'n gysylltiedig â'r eryr, o'r enw niwralgia ôl-herpetig (PHN: post-herpetic neuralgia). Ar ôl ei dreialu a'i gyflwyno i'r farchnad, gallai'r cyffur roi rhyddhad i filiynau o ddioddefwyr yr eryr ledled y byd. "