Dathlu llwyddiant myfyrwyr
16 Tachwedd 2018
Mae israddedigion o Ysgol Fusnes Caerdydd wedi cael cydnabyddiaeth am eu llwyddiant academaidd mewn dathliad yn y Ganolfan Addysgu Ôl-raddedigion.
Yr Athro Roy Chandler oedd yn cyflwyno’r digwyddiad gwobrwyo, a’r Athro Rachel Ashworth, Deon a Phennaeth yr Ysgol, oedd yn cyflwyno’r gwobrau.
Dyfarnwyd cyfanswm o 49 o wobrau i fyfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf, eu hail flwyddyn a’u blwyddyn olaf, a hynny mewn amrywiaeth o gategorïau, o’r perfformiad gorau mewn modiwlau unigol i wobrau i’r myfyrwyr gorau ar draws rhaglenni gradd.
Dwy neu dair gwobr
Cafodd Sioned Murphy, myfyriwr BSc mewn Rheoli Busnes, a Megan Kiely, myfyriwr BScEcon mewn Economeg, ddwy wobr yr un am eu llwyddiannau yn eu blwyddyn gyntaf.
Aeth Glesni Mair Jones, sy’n astudio BSc mewn Cyfrifeg a Chyllid, ac Amber Stevens, myfyriwr Economeg BScEcon, â dwy wobr yr un adref am eu cyflawniadau yn yr ail flwyddyn.
Yn fuddugol ym mlwyddyn tri roedd Yong Kang Low, myfyriwr Economeg a Chyllid BScEcon, Joshua Ramella, sydd wedi cyfuno ei radd mewn busnes ag astudio Iaith Ewropeaidd a Wei Hao Jason Ling, myfyriwr BSc Cyfrifeg a Chyllid, gan iddynt gael dwy wobr yr un wrth ffarwelio â’u hastudiaethau israddedig.
Amy Ellen Wilson gafodd lwyddiant mwyaf y noson, gan iddi sicrhau tair gwobr, gan gynnwys Gwobr Syr Julian Hodge, sy’n dathlu’r myfyriwr gorau ym mlwyddyn olaf yr holl gynlluniau gradd BSc mewn Rheoli Busnes.
Gwobr ariannol
Yn ogystal â thystysgrif cyflawniad, roedd yr enillwyr yn derbyn gwobr ariannol. Darparwyd y gwobrau ariannol gan noddwyr corfforaethol, neu trwy’r naw cronfa oedd ar gael ar gyfer gwobrau, llawer wedi’u buddsoddi er cof am athrawon ac academyddion o fri.
Ychwanegodd yr Athro Chandler: “Rydym wedi dyfarnu cyfanswm o £15,000 heno, a charwn ddiolch ar ran yr Ysgol i’n noddwyr am ein helpu i ddathlu llwyddiant carfan arall o fyfyrwyr eithriadol.”
Daethpwyd â’r digwyddiad i ben gan Jackie Yip, Is-lywydd Addysg yn Undeb y Myfyrwyr, Prifysgol Caerdydd, a fu’n llongyfarch yr enillwyr ar eu cyflawniadau, ac yn dymuno’n dda iddyn nhw ar gyfer eu hastudiaethau a’u gyrfaoedd yn y dyfodol.
Noddwyd gwobrau 2018 gan ACCA, Clwb Busnes Caerdydd, ICAEW a’i Gymdeithas Ddosbarth leol, MHA Broomfield Alexander, Sefydliad Hodge, y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Vauxhall Finance a Gwasanaethau Ariannol Cymru.
Rhestrir yr holl israddedigion a enillodd wobr yn rhaglen y digwyddiad.