Ymyrraeth ar gyfer sector newyddiaduraeth hyperleol y DU
8 Medi 2015
Adroddiad pwysig yn codi
pryderon ynghylch cynaliadwyedd y sector
Heddiw, mewn cynhadledd bwysig am ddyfodol newyddiaduraeth gymunedol a
gynhelir gan Brifysgol Caerdydd, bydd dadansoddwr digidol blaenllaw yn galw am
fwy o gefnogaeth a chydnabyddiaeth ar gyfer sector cyfryngau hyperleol y DU.
Bydd Damian Radcliffe, dadansoddwr digidol, ymchwilydd, newyddiadurwr a Chymrawd Ymchwil Anrhydeddus yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol (JOMEC) Prifysgol Caerdydd, yn lansio adroddiad newydd sy'n pwyso a mesur sefyllfa cyhoeddi hyperleol yn y DU ac yn cyflwyno'r heriau craidd a wynebir gan y sector.
Mae'r adroddiad yn rhoi tystiolaeth am gyfraniad llwyfannau hyperleol at fywyd dinesig a lluosogrwydd y cyfryngau yng nghyd-destun cwmnïau sy'n cau neu'n uno, gwneud toriadau a'r gostyngiad yng ngwerthiant papurau newydd rhanbarthol. Mae hefyd yn cyflwyno modelau busnes arloesol ac enghreifftiau o sut mae newyddiaduraeth gymunedol yn dylanwadu ac yn llywio penderfyniadau a wneir ar lawr gwlad.
Mae'r papur, a gynhyrchwyd ar y cyd ag elusen arloesedd Nesta, yn amlinellu pryderon ynghylch cynaliadwyedd y sector, y pwysau ariannol ac o ran personél, a'r modelau ariannu sy'n cefnogi'r sector. Mae hefyd yn trin a thrafod rôl cwmnïau technoleg o ran amlygu a hyrwyddo gwefannau, yr adnoddau heb fod yn rhai ariannol sydd ar gael i gyhoeddwyr, yn ogystal â'r gydnabyddiaeth a'r gefnogaeth ehangach a geir gan y cyfryngau traddodiadol a'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau.
Bydd Damian, fydd yn dechrau ei rôl fel Athro Ymarfer ac Athro Carolyn S. Chambers mewn Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Oregon nes ymlaen y mis hwn, yn ymuno ag arbenigwyr blaenllaw eraill yn y digwyddiad gan gynnwys Daniel Gillmor, Athro Ymarfer, Ysgol Newyddiaduraeth a Chyfathrebu Torfol Walter Cronkite ym Mhrifysgol Talaith Arizona ac Aelod Cyswllt y Gyfadran yng Nghanolfan Rhyngrwyd a Chymdeithas Berkman yn Harvard.
Bydd Daniel yn amlinellu llwyddiant Knight News Challenge (KNC) yn UDA - sy'n tarddu o sefydliad nid-er-elw Knight Foundation. Dros gyfnod o bum mlynedd, mae'r sefydliad hwn wedi rhoi cyfanswm o $26.5m (£16.4m) i 79 o brosiectau newyddion lleol.
Dywedodd Damian Radcliffe, prif awdur adroddiad What next for community journalism?: "Ers 2012, rydym wedi gweld newid sylweddol yn y dystiolaeth empeiraidd am gyfryngau hyperleol y DU. Mae ymchwil gan sefydliadau academaidd, cyrff anllywodraethol a rheoleiddwyr wedi gwella ein dealltwriaeth o gynulleidfaoedd, cynnwys a modelau busnes ar draws y sector hwn.
"O ganlyniad i hynny, mae gennym yr awgrym cryfaf eto o'r gwerth dinesig a chyhoeddus y mae'r cyfryngau hyperleol yn eu creu wrth gynhyrchu amrywiaeth o allbynnau newyddiadurol a chymunedol; o ddwyn awdurdod i gyfrif, i gynnal ymgyrchoedd a gohebu am ddigwyddiadau lleol.
"Ond, er gwaethaf y gydnabyddiaeth a'r ddealltwriaeth gynyddol, yr un yw'r prif heriau i lwyddiant parhaus y cyfryngau hyperleol yn y DU, gan olygu nad oes unrhyw sicrwydd hirdymor i'r sector. Mae'r aniscrwydd hwn yn golygu bod gormod o ddarparwyr yn gorfod byw un dydd ar y tro, ac mae hyn yn effeithio'n anochel ar gynaliadwyedd y sector a'i apêl i'r rhai sydd am ddechrau gweithio ynddo."
Ychwanegodd: "O ystyried bob un o bob pedwar o'r rhai sy'n mynd ar y we yn defnyddio gwefannau neu apiau lleol, mae'r adroddiad hwn yn amlinellu'r cyfleoedd enfawr yn ogystal â'r heriau i newyddiaduraeth gymunedol yn y DU. Mae'n dangos bod cyfle iddo fod yn sector bywiog sy'n cynnig gwerth cyhoeddus amlwg i gymdeithas a bod angen hynny'n fwy nag erioed o'r blaen."
Ychwanegodd Kathryn Geels, Rheolwr Rhaglen Nesta: "Mae'r adroddiad a digwyddiad heddiw yn dangos y datblygiadau sylweddol a'r llwyddiannau yn sector y cyfryngau hyperleol yn y DU dros y blynyddoedd diwethaf. O gyfrannu at waith ymchwil penodol, i ddatblygiadau arloesol gan wasanaethau cyfryngau hyperleol unigol a llenwi bylchau ymgysylltu a gwybodaeth ddinesig mewn cymunedau lleol, nid ydym erioed wedi gweld cymaint o awydd gan ymarferwyr i 'wneud i hyn weithio'. Fodd bynnag, er mwyn rhoi'r sector ar dir economaidd mwy cadarn a datblygu cyfleoedd arloesedd sy'n mynd y tu hwnt i arbrofi, mae angen ymyriadau cadarnhaol arnom gan lunwyr polisïau a diwydiant y cyfryngau yn gyffredinol".
Dyma rai o brif argymhellion yr adroddiad:
- Rhoi'r cyfle i gyhoeddwyr hyperleol werthu cynnwys wedi'i gredydu i'r BBC
- Annog cwmnïau technoleg mawr fel Google i gefnogi darparwyr newyddion cymunedol drwy alluogi defnyddwyr i ganfod eu cynnwys yn haws
- Cynnig achrediad a chydnabyddiaeth gan Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr
- Mae angen esboniad brys gan wleidyddion a rheoleiddwyr am y gyfundrefn newydd ar gyfer rheoleiddio'r wasg a sut y gallai effeithio ar ddarparwyr newyddion cymunedol
- Sicrhau bod cyhoeddwyr hyperleol yn cael eu hystyried fel cyflenwyr ar gyfer hysbysiadau statudol (sy'n cyfateb i wario £45-£50 miliwn ar hysbysebu y flwyddyn) ac ymgyrchoedd iechyd lleol
- Cynnal gwaith ymchwil parhaus ynghylch maint y farchnad hyperleol yn y DU, ac amrywiaeth o fodelau busnes llwyddiannus
- Ymchwilio i fodelau ariannu newydd, gan gynnwys ymyriadau posibl i gynnig cefnogaeth ariannol ar gyfer y sector
Canolfan Newyddiaduraeth Gymunedol Prifysgol Caerdydd sy'n hwyluso'r
digwyddiad hwn fydd yn dangos enghreifftiau arloesol o arferion newyddiadurwyr
hyperleol ledled y DU.
Bydd dros 150 o bobl yn mynd i'r digwyddiad, gan gynnwys cynrychiolwyr o'r BBC,
Ofcom a'r Swyddfa Gartref ymysg eraill. Dechreuir y digwyddiad gydag anerchiad
gan Dan Gillmor, Athro Ymarfer, Ysgol Newyddiaduraeth a Chyfathrebu Torfol
Walter Cronkite ym Mhrifysgol Talaith Arizona.