A fydd algorithmau'n rhagweld eich dyfodol?
19 Tachwedd 2018
Mae adroddiad gan Brifysgol Caerdydd yn dangos i ba raddau mae'r broses o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn cael ei dylanwadu gan ddadansoddeg data erbyn hyn.
Mae'r astudiaeth, Data Scores as Governance, yn ffrwyth prosiect ymchwil a gynhaliwyd dros flwyddyn gan Lab Cyfiawnder Data yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant.
Astudiodd yr ymchwilwyr systemau data gwasanaethau llywodraeth ledled y DU i asesu i ba raddau mae penderfyniadau am unigolion yn cael eu gwneud gan sgoriau data ac algorithmau. Cynhaliwyd cyfweliadau â gweithwyr yn y maes hefyd i weld sut mae gwybodaeth a gesglir am y bobl sy'n dod i gysylltiad â nhw yn cael ei defnyddio a'i dosbarthu.
Mae eu canfyddiadau'n dangos bod arferion casglu a rhannu data ar draws cynghorau lleol ac adrannau llywodraeth yn gyffredin erbyn hyn.
Dywedodd Cyd-Gyfarwyddwr y Labordy Cyfiawnder Data, Dr Arne Hintz: "Rydyn ni wedi dod i arfer â'r ffaith bod ein data'n cael ei ddefnyddio ar-lein i benderfynu pa hysbysebion neu negeseuon i'n dangos ar y cyfryngau cymdeithasol. Ond am y tro cyntaf, mae ein hymchwil yn dangos i ba raddau mae ein data'n cael ei ddefnyddio i benderfynu sut y dylem gael ein trin gan wasanaethau cyhoeddus.
Ychwanegodd y Cyd-gyfarwyddwr, Dr Joanna Redden: "Yn y rhan fwyaf o achosion, gwelsom fod systemau data wedi cael eu rhoi ar waith o ganlyniad i fesurau llymder, er mwyn blaenoriaethu adnoddau."
Mae rhoi 'sgoriau risg' o ran bod yn agored i niwed a throseddu, yn enwedig, yn duedd gynyddol, yn ôl awduron yr adroddiad.
Er enghraifft, cafodd system Qlik Sense Heddlu Avon a Gwlad yr Haf ei pheilota am y tro cyntaf yn 2016, ac erbyn hyn mae ganddi dros 30 o gymwysiadau ar draws y timau. Mae'r system yn fodd o asesu perfformiad yn ogystal â rhagweld anghenion plismona. Mae'r platfform yn creu proffiliau ar gyfer unrhyw unigolyn sy'n rhyngweithio â swyddogion heddlu, cyn asesu ei lefel risg.
Mae awdurdodau lleol hefyd yn casglu data fel mater o drefn, ac yn defnyddio'r data hwn i benderfynu faint o flaenoriaeth sy'n cael ei rhoi i unigolyn penodol o ran lefel cymorth. Mae canolfan integredig Cyngor Dinas Bryste yn cyfuno data am yr "holl faterion cymdeithasol" ar draws y ddinas ar gyfer plant a theuluoedd, er mwyn rhoi "dealltwriaeth holistaidd" o'u hanghenion. Erbyn hyn mae'r system yn defnyddio modelu rhagfynegol i baratoi ar gyfer "tueddiadau yn y dyfodol". Mae Mynegai Preswylwyr Camden yn cael ei gynnal gan Gyngor Camden, sef yr awdurdod lleol cyntaf i ymgorffori system rheoli data meistr, fel y gellir cael "un darlun o ddinesydd".
Bydd canfyddiadau llawn yr adroddiad yn cael eu cyflwyno yn y Neuadd Ganolog yn Westminster, Llundain, heddiw. (Dydd Llun 19 Tachwedd 2018.) Mae map rhyngweithiol ar-lein wedi cael ei ddatblygu i alluogi llunwyr polisïau, newyddiadurwyr a'r cyhoedd i archwilio sut mae gwahanol sefydliadau yn y sector cyhoeddus yn defnyddio dadansoddeg data wrth wneud penderfyniadau.
Ychwanegodd y Cyd-gyfarwyddwr, Dr Lina Dencik: “Nid oes safonau ar waith ar gyfer sut mae systemau data'n cael eu rhoi ar waith ar draws awdurdodau lleol. Mae rhai'n cael eu datblygu'n fewnol tra bod eraill yn cael eu datblygu'n allanol heb ofynion penodol ar gyfer archwilio, ymgynghori neu asesu effaith.
Daw'r casgliadau wrth i'r Athro Philip Alston, Rapporteur Arbennig y Cenhedloedd Unedig ar gyfer tlodi eithafol a hawliau dynol, orffen ymholiad a gynhaliwyd dros bythefnos i lefelau tlodi a chaledi ledled y DU, sy'n cynnwys canolbwyntio ar algorithmau ym maes lles.
Bydd ei adroddiad yn cynnwys tystiolaeth a gasglwyd gan y Labordy Cyfiawnder Data o weithwyr proffesiynol ar y rheng flaen a'r rhai sy'n gweithio ar dlodi, lles a hawliau dinasyddion, sy'n rhannu eu pryderon ynghylch digideiddio a dataeiddio gwasanaethau cyhoeddus.