Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn ennill aur mewn cystadleuaeth wyddonol fyd-eang
16 Tachwedd 2018
Mae grŵp o fyfyrwyr o Brifysgol Caerdydd wedi ennill medal aur a gwobr o bwys mewn cystadleuaeth wyddonol ryngwladol sy’n ceisio dod o hyd i ddefnyddiau newydd ar gyfer systemau biolegol synthetig.
Cystadlodd tîm o Gaerdydd yng nghystadleuaeth Prosiect Peirianneg Enynnol Rhyngwladol (iGEM) 2018. Ryan Coates, Emily Heath, Sophie Thomas, Hannah Elliott, Lily Thomas, Ali Tariq ac Evangeline McShane oedd aelodau’r tîm a chawsant eu cydnabod am eu dull newydd o reoli a lleihau pryfed sy’n niweidio cnydau.
Mae’r grŵp yn canolbwyntio’n benodol ar leihau sut mae pryfed gleision yn niweidio cnydau, drwy ddefnyddio ymyrraeth RNA i amharu’r berthynas symbiotig rhwng pryfed gleision a math arbennig o facteria sy’n byw yn eu perfeddion. Nod y prosiect oedd cynhyrchu planhigion wedi’u haddasu’n enynnol sy’n effeithio ar gyfradd eni’r pryfed gleision sy’n bwyta’r planhigion.
Dechreuodd y myfyrwyr weithio ar eu prosiect yn semester y gwanwyn yn labordai Adeilad Syr Martin Evans. Yno, gwnaethant ymchwilio, dadansoddi eu data a pharatoi ar gyfer y gynhadledd derfynol yn UDA.
Ar ôl treulio'r haf yn datblygu eu dyluniad ac yn cynnal gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd, fe gyflwynodd y tîm trawsddisgyblaethol - gyda myfyrwyr o Ysgol y Biowyddorau, yr Ysgol Cemeg a’r Ysgol Mathemateg - eu prosiect yng ngŵyl ryngwladol iGEM yn Boston lle buon nhw'n cystadlu yn erbyn tua 300 o dimau eraill o bob cwr o'r byd.
Cyflwynodd beirniaid iGEM fedal aur i brosiect ymchwil y grŵp (yr un gyntaf erioed i dîm iGEM Caerdydd), yn ogystal â’r wobr am y Prosiect Bioleg Synthetig Gorau o ran Planhigion.
Dr Geraint Parry, biolegydd celloedd planhigion o Ysgol y Biowyddorau, ddaeth â thîm Caerdydd ynghyd a’i oruchwylio. Cafodd y fenter ei hariannu a’i chefnogi gan Ysgol y Biowyddorau, yr Ysgol Cemeg a CUROP ym Mhrifysgol Caerdydd, a roddodd bedair ysgoloriaeth ar gyfer ymchwil yn yr haf.
Wrth sôn am lwyddiant y tîm, dywedodd Dr Parry,
"Mae bod y tîm Prifysgol Caerdydd cyntaf erioed i ennill y wobr aur yng nghystadleuaeth iGEM yn gyflawniad ardderchog, ac yn brawf o waith caled ac ymrwymiad pawb sydd ynghlwm wrth y gwaith."
"Mae gan Brifysgol Caerdydd enw da iawn am ansawdd ei hymchwil ac mae hi wedi ymrwymo i roi cyfleoedd i fyfyrwyr gynnal gwaith ymchwil ymarferol y gellir ei defnyddio mewn bywyd go iawn. Mae cystadleuaeth iGEM yn cynnig y cyfle perffaith i fyfyrwyr fireinio eu gallu i feddwl yn feirniadol, eu sgiliau ymgysylltu, a'r gallu ymarferol i gynnal gwaith ymchwil – bydd y cyfan o fantais iddynt yn eu gyrfa ar ôl gadael y Brifysgol."
Rwyf bellach yn recriwtio ein tîm iGEM ar gyfer 2019, ac rydym yn croesawu myfyrwyr o unrhyw faes pwnc i gymryd rhan."
I gael rhagor o wybodaeth am gymryd rhan yn iGEM, cysylltwch â Parryg5@caerdydd.ac.uk.
Rhagor o wybodaeth am dîm prosiect iGEM Prifysgol Caerdydd.