Myfyrwraig yn actio’n Awstralia
8 Medi 2015
Mae Ceri Elen, myfyrwraig PhD a thiwtor Sgriptio ac Ysgrifennu Creadigol yn yr Ysgol, newydd ddychwelyd wedi cyfnod yn actio yn Awstralia ar lwyfan byd-enwog Tŷ Opera Sydney gyda chwmni Theatr Iolo. Yr oedd y cwmni yn perfformio ‘Adventures in the Skin Trade’, addasiad llwyfan Lucy Gough o nofel anorffenedig Dylan Thomas.
Hanes Samuel Bennet sydd i’w gael yn y ddrama wrth iddo adael ei gartref yn Ne Cymru i fynd i Lundain, a’i fryd ar fod yn fardd. Cafodd y ddrama ei llwyfannu yn Nhŷ Opera Sydney ac yng Nghanolfan Gelfyddydau Melbourne. Theatr Iolo yw’r cwmni theatr Cymreig cyntaf i berfformio yn Nhŷ Opera Sydney.
Dywed Ceri ei bod yn teimlo’n ffodus iawn i gael bod yn rhan o’r cynhyrchiad. “Y mae elfennau hunan-gofiannol yn perthyn i'r gwaith swreal gwych yma, ac mae addasiad Lucy Gough yn un rhagorol.
“Dwi'n chwarae rhan Polly sydd yn gymeriad cymhleth iawn; mae hi'n gwthio Samuel Bennet i sefyllfaoedd nad ydyw erioed wedi bod ynddynt o'r blaen. Mae holl ferched y cast hefyd yn ffurfio’r corws. Y corws yw meddyliau Samuel Bennet, sydd yn lliwgar, weithiau yn dywyll ac yn aml yn ddireidus iawn.
“Yr oedd yn fraint cael rhoi sylw i waith Dylan Thomas ar lwyfannau mor fyd-enwog.”
Am ragor o wybodaeth, dyma ffilm fer am y ddrama:
Adventures of the Skin Trade