Gwobr Cymdeithas Feddygol Prydain i ymchwilydd 'coma'
8 Medi 2015
Mae athro o Brifysgol Caerdydd, sydd wedi helpu teuluoedd cleifion ag anfiadau difrifol i'r ymennydd yn sgîl ei gwaith arloesol, wedi ennill gwobr gan Gymdeithas Feddygol Prydain
Daeth gwaith yr Athro Jenny Kitzinger, o'r Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol, i'r brig yn y categori 'Gwybodaeth am Faterion Moesegol' yng Ngwobrau Gwybodaeth i Gleifion 2015 Cymdeithas Feddygol Prydain.
Mae'r Athro Kitzinger a'i chwaer, yr Athro Celia Kitzinger o Brifysgol Caerefrog, wedi datblygu adnodd ar-lein sy'n seiliedig ar 65 o gyfweliadau gyda pherthnasau cleifion sydd mewn cyflwr diymateb neu led-ymwybodol. Cafodd ei ddatblygu gyda chymorth perthnasau a chlinigwyr fu'n gweithio'n rhan o grŵp cynghori'r prosiect.
Dywedodd yr Athro Jenny Kitzinger, cyd-gyfarwyddwr Canolfan Ymchwil Coma ac Anhwylderau Ymwybod Caerdydd-Caerefrog: "Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy nghydnabod gan Gymdeithas Feddygol Prydain. Gyda lwc, bydd yr adnodd yn cefnogi teuluoedd, gweithwyr proffesiynol ym meysydd gofal iechyd a'r gyfraith, yn ogystal â gwneuthurwyr polisïau, i fynd i'r afael â sut mae'r cleifion hyn yn cael eu trin mewn amgylchiadau anodd dros ben."
Cafodd y tîm ganmoliaeth gan y sawl fu'n adolygu ar ran Cymdeithas Feddygol Prydain am greu: 'adnodd cwbl onest ac unigryw fydd yn cynnig doethineb, empathi, arbenigedd a chefnogaeth i eraill...ac y bydd o werth mawr i deuluoedd a chlinigwyr.' Ychwanegodd yr adolygydd: "Hwn yw'r adnodd gorau i mi ei weld ers i mi ddechrau adolygu dros bum mlynedd yn ôl."
Defnyddiodd dros 4,000 o bobl yr adnodd ymhen ychydig fisoedd ar ôl ei lansio, ac mae eisoes wedi ennill gwobrau am ei effaith ar bolisïau a chymdeithas.