Bwrw golwg ar ragoriaeth myfyrwyr
19 Tachwedd 2018
Cafodd myfyrwyr talentog a myfyrwyr ysgoloriaeth eu cydnabod mewn seremoni wobrwyo’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio ddydd Mawrth 13 Tachwedd 2018.
Ar gyfer y digwyddiad, a gynhelir yn Ystafell Bwyllgor Adeilad Morgannwg, daeth myfyrwyr israddedig sy’n perfformio orau ac ôl-raddedigion ynghyd sydd wedi cael bwrsariaethau neu ysgoloriaethau.
Fe wnaeth yr Ysgol gydnabod y deg myfyriwr israddedig uchaf (sydd wedi cael y marciau uchaf yn eu blwyddyn gyntaf a’u hail flwyddyn ar gyfartaledd) am eu gwaith caled a’u hymrwymiad i ragoriaeth academaidd. Am yr ail flwyddyn yn olynol, cydnabu’r pum myfyriwr a wellodd eu perfformiad academaidd cyffredinol fwyaf rhwng y flwyddyn gyntaf a’r ail.
Yn ogystal â’r gwobrau israddedig, rhoddodd y digwyddiad gyfle i gydnabod ôl-raddedigion cyfredol sy’n wedi cael ysgoloriaethau a bwrsariaethau eleni. Yn eu plith eleni roedd myfyrwyr a dderbyniodd Ysgoloriaethau Rhagoriaeth Meistr a bwrsariaethau Brian Large a Rees Jeffreys (sy’n ariannu myfyrwyr gradd Meistr sy’n astudio Cludiant a Chynllunio).
Meddai Pennaeth yr Ysgol, yr Athro Paul Milbourne: “Dyma un o uchafbwyntiau calendr yr Ysgol a chyfle i mi gydnabod ymrwymiad, dygnwch ac ymroddiad ein myfyrwyr. Maent yn gymuned chwilfrydig, feirniadol a bywiog sy’n croesawu safbwyntiau newydd, yn cwestiynu’r status quo ac yn awyddus i sbarduno newidiadau positif yn y gymdeithas.
Ychwanegodd: “Rwy’n hynod falch o’n holl fyfyrwyr. Maent yn llysgenhadon gwych ar gyfer yr Ysgol a’r disgyblaethau daearyddiaeth a chynllunio. Heb os, byddant yn mynd ymlaen i gyflawni campau academaidd sylweddol a’u chyflawni ei dyheadau proffesiynol a gyrfaol. Pa faes bynnag y byddant yn ei ddewis, rwy’n sicr y byddant yn manteisio ar y sgiliau a’r profiadau y maent wedi eu magu gyda ni fel myfyrwyr.”